Athro ym Mangor ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Bydd Yr Athro Sandy Toogood, Athro er Anrhydedd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd a bydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i bobl ag anableddau deallusol.
Mae’r Athro Toogood, cyn uwch ddarlithydd Dadansoddiad Ymddygiadol, bellach yn athro er anrhydedd yn yr Ysgol Addysg.
Meddai'r Athro Toogood:
“Mae cael gwobr yn anrhydedd mawr i’r mwyafrif ac yn aml iawn yn ysgogiad i feddwl am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan ffrindiau a chydweithwyr. Yn gynyddol, mae pobl ag anableddau deallusol difrifol neu ddwys yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfrannu at gymdeithas, sy'n fwy cynhwysol erbyn hyn na phan ddechreuais yn y maes ddeugain mlynedd yn ôl. Mae addysg wedi bod yn allweddol i ddatgloi potensial pobl ag anableddau deallusol ac yn y gymdeithas gyfan. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud o hyd, serch hynny, ac rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar y llwybr i ddyfodol gwell i ni i gyd."
Ymunodd Sandy Toogood â Phrifysgol Bangor ar ôl symud i Gymru ym 1989. Fe'i penodwyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd tra'n gweithio yn y GIG ar ddatblygu gwasanaethau cefnogaeth glinigol ac ymddygiadol. Enillodd PhD mewn seicoleg ymddygiadol ym 1996 cyn mynd ymlaen i fod yn uwch ddarlithydd a helpu i sefydlu a dysgu'r cwrs cyntaf a gymeradwywyd gan BACB (MSc Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol) yn Ewrop.
Yn ystod yr 1980au, cyfrannodd Sandy yn sylweddol at ddatblygu system gefnogaeth weithredol sydd bellach yn fyd-enwog (gwella ansawdd bywyd ac annibyniaeth trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau) cyn dod yn ddirprwy arweinydd y Tîm Datblygiad Arbennig arloesol (y model cyntaf ar gyfer gwasanaethau cefnogi ymddygiad cadarnhaol).
Mae Sandy wedi bod yn ffigwr allweddol yn y gwaith o ddatblygu a lledaenu gwasanaethau cefnogi ymddygiad cadarnhaol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a gwnaed ef yn athro er anrhydedd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol yn 2018. Ar hyn o bryd mae Sandy yn gweithio mewn ysgol flaenllaw i blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau gyda chefnogaeth ymchwil gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Warwick, cefnogaeth a fydd yn para am y deng mlynedd nesaf.
Meddai’r Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor:
“Ni allaf feddwl am unigolyn mwy haeddiannol i dderbyn y r Anrhydedd hwn. Mae Sandy wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol ei yrfa dros bobol efo anableddau deallusol. Byddai’n anodd mesur yr effaith sydd wedi bod o ganlyniad i waith clinigol, academaidd ac addysgu Sandy. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i gannoedd o fyfyrwyr dros y blynyddoedd, ac mae’r pleser mwyaf i’w ystyried yn fentor ac yn gyfaill.”