Cynhaliwyd yr arolwg fis Hydref y llynedd gan Brifysgol Bangor ar y cyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia a Phrifysgol Caerdydd. Bwriad yr arolwg oedd deall ymddygiad fel y gall llywodraethau ddatblygu’r polisïau a’r gweithdrefnau a fyddai fwyaf tebygol o fod yn effeithiol.
Roedd yr arolwg hefyd yn ystyried a allai fod yn ymarferol monitro dŵr gwastraff ar fwrdd awyrennau am SARS-CoV-2, a daethpwyd i'r casgliad mai dim ond mewn hediadau hir y byddai hyn yn gweithio.
Wrth arolygu dros 2,000 o gyfranogwyr ledled y Deyrnas Unedig, canfu'r ymchwilwyr bod yr wybodaeth gyffredinol am symptomau COVID-19 yn wael ar y cyfan, yn enwedig ymhlith dynion ifanc. Mae hyn yn awgrymu y gallai llawer o unigolion ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig yn dioddef o Covid-19 heb iddynt fod yn ymwybodol o hynny.
Dywedodd yr Athro Davey Jones o Brifysgol Bangor, a oedd yn arwain y gwaith:
“Mae ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar yr arolwg a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig, yn cefnogi gosod canllawiau llymach ledled y Deyrnas Unig i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â phrofion yn y man ymadael a threfniadau cwarantin llymach ar ôl cyrraedd i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd o dramor.
Roedd canfyddiad dynion ifanc y bod y risg bersonol yn isel hefyd yn awgrymu y gall fod y risg yn uwch iddynt gludo SARS-CoV-2 yn ôl i'r Deyrnas Unedig.
“Hefyd, rydym yn argymell y dylid targedu’r canllawiau llymach at grwpiau oedran iau lle mae’r risg o ddiffyg cydymffurfio yn fwy,” ychwanegodd.
Datgelodd yr arolwg hefyd y byddai 21% o'r ymatebwyr yn teithio yn ôl i'r Deyrnas Unedig pe bai ganddynt symptomau cynnar COVID-19.
Hefyd, mynegodd llawer y farn na fyddent yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau hunanynysu'r llywodraeth ar ôl dychwelyd.
Daeth Davey Jones, Athro Gwyddorau Pridd a’r Amgylchedd i'r casgliad:
“Nid yw hyn yn newyddion gwych i’r rheini sy’n awyddus i fynd ar wyliau tramor, ond yn seiliedig ar yr angen i reoli risg, dyma fyddai’n darparu’r ffordd orau ymlaen i osgoi tonnau pellach o’r haint yn y dyfodol.”
Wrth sôn am y newyddion bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno cwarantîn gorfodol mewn gwestai am gyfnod o 10 diwrnod i deithwyr o 15 Chwefror, dywedodd yr Athro Jones:
”Rwy’n cytuno’n llwyr y dylid cadw gwladolion tramor mewn gwestai. Y cwestiwn allweddol yw a ddylem roi gwladolion y Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd o dramor mewn gwestai hefyd - rwy'n credu y dylem wneud hynny ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.”
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.