Dyna farn yr economegydd blaenllaw Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor, sydd wedi gweld achos i lawenhau yn ystod y 12 mis diwethaf yn nycnwch pobl a busnesau ledled y rhanbarth.
Ategwyd hynny gan y cynllun gwerth miliynau o bunnoedd Bargen Twf Gogledd Cymru, a dadeni pêl-droed Wrecsam wedi ei ysbrydoli gan Hollywood - dim ond dau o'r rhesymau dros lawenhau yn 2021.
Efallai bod y data economaidd yn dweud ei bod hi’n flwyddyn drychinebus ond nid oedd 2020 yn newyddion drwg i gyd i economi Gogledd Cymru ac mae cymunedau, busnesau ac entrepreneuriaid y rhanbarth yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol disglair.
Mae'n credu bod cyfalaf cymdeithasol - y rhwydwaith o gydberthnasau cymunedol sy'n cefnogi ac yn cryfhau cymdeithasau - wedi cael hwb ar draws y rhanbarth yn y pandemig.
Ychwanegodd: “Efallai y byddai disgwyl i’r polisïau cadw pellter cymdeithasol er mwyn ffrwyno lledaeniad covid-19 wanhau rhwydweithiau cymdeithasol a niweidio cyfalaf cymdeithasol ond mewn gwirionedd, mae’r gwrthwyneb wedi digwydd.
“Mae pobl wedi cadw pellter corfforol wrth geisio meithrin cydberthnasau cymdeithasol trwy weithredoedd o garedigrwydd. Bu gwirfoddoli yn boblogaidd ac mae elusennau wedi bod yn weithgar, ac yng Ngogledd Cymru mae busnesau hefyd wedi gwneud eu rhan.
“Er gwaethaf yr heriau y mae’r sector twristiaeth yn eu hwynebu, roedd busnesau fel bwytai Dylan yn danfon prydau poeth a bocsys bwyd i dimau yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.
“Roedd Gwasanaeth Bwyd Harlech yn cyflenwi banciau bwyd pan roedd cwsmeriaid rheolaidd wedi cau tra bod eraill yn y sector, fel Catch22 a Blas Mwy Black Lion ar Ynys Môn a The Sorbus Tree ym Mro Clwyd wedi addasu’n gyflym i gynnig bwyd i fynd a newid eu harferion busnes, a oedd yn cadw busnesau ar agor a staff mewn swyddi.
“Hyd yn oed yn anterth y pandemig mae Adventure Parc Snowdonia wedi parhau gyda’i fuddsoddiad yng ngwesty’r Hilton Garden Inn a’r Wave Garden Spa, sydd i fod i agor ym mis Mawrth.
“Ac i goroni’r cyfan, cafodd Ryan Reynolds - seren ‘Deadpool’, a Rob McElhenneyc o ‘It's Always Sunny in Philadelphia’, sêl bendith cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam i ddod yn berchnogion newydd y clwb pêl-droed hwn, sef y pwysicaf yng Ngogledd Cymru.
“Mae gan ddeuawd Hollywood weledigaeth i ddyrchafu’r clwb ym myd pêl-droed ac mae eu buddsoddiad eisoes wedi rhoi sylw byd-eang i Wrecsam a’r ardal gyfagos gyda’r perchnogion dethol yn dathlu eu meddiant gyda neges fideo a welwyd ledled y byd yn hyrwyddo noddwr y clwb a phrif wneuthurwr trelars Prydain ers dros 60 mlynedd, Ifor Williams Trailers.
“Pwysleisiwyd fod Gogledd Cymru yn ganolbwynt gweithgynhyrchu pwysig o hyd pan ddaeth ffatri CP Pharmaceuticals yn Wrecsam yn allweddol ym mrwydr y DU yn erbyn covid-19.”
Cred Dr Jones fod covid-19 wedi gorfodi llawer o fusnesau yng Ngogledd Cymru i ailfeddwl sut roeddent yn gweithio mewn ymateb i’r rheolau cyfyngiadau symud a pholisïau cadw pellter cymdeithasol. Yn wir, trodd llawer at offer digidol i gadw eu busnesau ar agor a phobl ar gyflog.
Rwyf wedi synnu faint o fusnesau bychain lleol sydd wedi gallu cynyddu eu presenoldeb ar-lein a chadw pobl mewn gwaith oherwydd pan ddaw hyn i ben mae'n bwysig bod sylfeini i adeiladu arnynt.
“Dyma fusnesau sydd wedi brwydro nerth eu deng ewin i aros ar agor. Maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu, a busnesau fel hyn fydd mewn sefyllfa dda i oroesi a symud ymlaen.
“Mae Moneypenny, y cwmni o Wrecsam, wedi helpu busnesau ledled y rhanbarth i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a defnyddio offer digidol newydd.
“Ym mis Awst y llynedd fe wnaethant ddatblygu a lansio teclyn hunan-sgrinio i helpu gyda rheoli diogelwch ymwelwyr a chwsmeriaid. Mae'r arloesedd hwn wedi caniatáu i fusnesau barhau i fod yn effeithlon ac aros yn agored yn ystod y pandemig.
“Gwelwyd arloesi yng Ngogledd Cymru trwy gydol 2020 er gwaethaf covid-19. Enillodd Cufflink, sydd wedi'i leoli yn M-SParc, y wobr i fusnesau seiber newydd yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020, tra bod cwmni peirianneg sifil Hollingsworth o Sir y Fflint wedi datblygu ap Iechyd a Diogelwch a enillodd gydnabyddiaeth genedlaethol, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffrous sydd ohoni o ran arloesi yn y gogledd.
“Mae Gogledd Cymru hefyd ar flaen y gad wrth arloesi i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid ar gyfer cam datblygu cychwynnol canolfan hydrogen yng Nghaergybi.
“Mae hydrogen yn danwydd glân sydd ond yn cynhyrchu dŵr pan gaiff ei ddefnyddio. Mae wedi’i glustnodi i chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
“Y ganolfan hon fydd y cyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n sicrhau bod y rhanbarth ar flaen y gad yn y dechnoleg newydd hon.”
Mae hefyd yn credu bod technolegau 'gwyrdd' newydd a chryfderau traddodiadol y rhanbarth, sector gweithgynhyrchu nerthol Gogledd Ddwyrain Cymru, ynghyd â bwyd a thwristiaeth, yn cynnig ffordd ymlaen i'r Gogledd.
Ychwanegodd: “Rhoddwyd hwb i brosiectau arloesol eraill pan roddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sêl eu bendith i gynllun blaengar Bargen Twf Gogledd Cymru. Bydd y prosiectau hyn yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi a chreu swyddi ledled y rhanbarth.
“Bydd y Fargen Twf yn cefnogi 14 prosiect - yn ymwneud ag ynni carbon isel, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth a thwristiaeth, cysylltedd digidol a thir ac eiddo - gyda phob un yn cael effaith gadarnhaol ar economi a chymdeithas Gogledd Cymru.”
Mae data economaidd yn awgrymu bod 2020 yn flwyddyn drychinebus i economi Gogledd Cymru ond mae golwg fanylach hefyd yn dangos bod busnesau yn arloesi, bod pobl yn cydweithredu, y gwneir buddsoddiadau a bod gweithredoedd beunyddiol o garedigrwydd cymdeithasol.
“Efallai y bydd mwy o heriau ar y gorwel ond, o ystyried gwytnwch ac agwedd y Gogleddwyr trwy gydol 2020, mae yna resymau i fod yn gadarnhaol am economi Gogledd Cymru yn y byd wedi’r pandemig.
Mae Ysgol Busnes Bangor ym Mhrifysgol Bangor yn ysgol busnes flaenllaw ym meysydd dysgu ac ymchwil gan gynnig amrywiaeth llawn o ddisgyblaethau o lefel israddedig i ddoethurol cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Mae'r Hwb Cydweithredu yn darparu mynediad i'r ystod eang o gyfleoedd cymorth busnes ac arloesi sydd ar gael trwy Brifysgol Bangor, boed yn sefydliadau micro, busnesau bach a chanolig, ddim er elw neu sefydliadau mawr, cliciwch yma i wybod mwy.