Mae gwylwyr adar yn gwirioni pan fydd aderyn mudol 'prin' yn dod i olwg tir ar ôl cael ei chwythu oddi ar ei lwybr arferol wrth fudo. Ond maent yn brin am reswm; mae mwyafrif yr adar sydd wedi teithio ar hyd y ffordd o'r blaen yn gallu cywiro eu hunain a chyrraedd pen eu taith.
Yn awr, mae ymchwil newydd gan dîm rhyngwladol yn dangos am y tro cyntaf sut mae adar sy'n mynd oddi ar eu llwybr yn gallu dod o hyd i'r ffordd yn ôl i'w llwybr mudol ac mae'n rhoi cipolwg i ni ar sut maent yn cyflawni'r gamp hon.
Mewn erthygl yn Current Biology, mae'r tîm o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Keele yn disgrifio sut y gall telorion y cyrs ddod o hyd i'w ffordd o 'safle magnetig' y tu hwnt i'w llwybr mudo arferol, yn ôl tuag at y llwybr cywir.
Llofnod Geomagnetig
Mae gan wahanol rannau o'r ddaear 'lofnod geomagnetig' unigryw yn ôl eu lleoliad. Cyfuniad o gryfder y maes geomagnetig, y gogwydd magnetig neu'r ongl dipio rhwng llinellau maes magnetig a'r gorwel a'r gwyriad magnetig, neu'r ongl rhwng y cyfeiriad i bolion daearyddol a magnetig Pegwn y Gogledd yw'r llofnod.
Cafodd adar a oedd eisoes yn gyfarwydd â'u llwybr mudo a'i lofnodion magnetig cyffredinol eu caethiwo am gyfnod byr, a dangoswyd efelychiad o lofnod magnetig y ddaear mewn lleoliad filoedd o filltiroedd y tu hwnt i goridor ymfudol naturiol yr adar iddynt.
Er eu bod yn gorfforol yn y safle ble cawsant eu dal ac yn parhau i synhwyro'r holl gliwiau eraill am eu lleoliad, yn cynnwys golau'r sêr a'r golygfeydd, arogl a synau eu lleoliad go iawn, roedd yr adar yn dal i ddangos yr ysfa i gychwyn ar eu taith fel pe baent yn y lleoliad a awgrymwyd gan y signal magnetig yr oeddent yn ei synhwyro.
Roeddent yn gosod eu hunain i hedfan i gyfeiriad a fyddai'n eu harwain 'yn ôl' i'w llwybr mudol o'r lleoliad a awgrymwyd iddynt gan y signalau magnetig yr oeddent yn eu synhwyro.
Mae hyn yn dangos mai maes magnetig y ddaear yw'r ffactor allweddol wrth arwain telorion y cyrs pan gânt eu chwythu oddi ar y trywydd iawn.
Adar yn dod o hyd i'w ffordd
“Eu prif ysgogiad oedd ymateb i’r wybodaeth magnetig yr oeddent yn ei derbyn,” esboniodd Richard Holland o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor.
Yr hyn mae ein gwaith yn ei ddangos yw bod adar yn gallu synhwyro eu bod y tu hwnt i ffiniau'r caeau magnetig sy'n gyfarwydd iddynt yn eu symudiadau trwy gydol y flwyddyn, ac yn gallu newid eu cyfeiriad yn ddigonol o synhwyro'r signalau. Mae'r gallu hynod ddiddorol hwn yn caniatáu i adar hedfan i gyfeiriad eu llwybr mudo arferol.”
Meddai Dr Dmitry Kishkinev o'r School of Life Sciences ym Mhrifysgol Keele:
“Mae'r adar hyn yn gallu dod o hyd i'w ffordd. Hynny yw, gallant ddychwelyd i le penodol ar ôl cael eu cludo i leoliad cwbl ddieithr heb ddibynnu ar amgylchoedd cyfarwydd, ciwiau sy'n deillio o'r lleoliad ar ben eu taith, na gwybodaeth a gasglwyd yn ystod y daith yno."
Meddai Florian Packmor o Brifysgol Bangor:
“Rydym eisoes wedi dangos bod telorion y cyrs yn defnyddio'r un ciwiau magnetig ag y maent yn synhwyro ar eu taith arferol, ond mae'r astudiaeth hon yn dangos eu bod yn gallu allosod yr hyn maent yn ei ddeall ynglŷn â sut mae'r maes magnetig yn amrywio yn y gofod ymhell y tu hwnt i unrhyw daith arall maent wedi bod arni."
Ond nid oes sicrwydd a oes gan yr adar 'fap' cywir neu a ydynt yn amcangyfrif yn fras pa gyfeiriad teithio cyffredinol sydd ei angen arnynt i fynd yn ôl ar y llwybr iawn.
Dewiswyd telor y cyrs Ewrasiaidd ar gyfer yr ymchwil, ond mae'n debyg y gellid cymhwyso'r canfyddiadau i adar persain mudol eraill.