Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror yn y cyfnodolyn One Earth, yn amcangyfrif bod mwy na 2 filiwn o fetrau ciwbig o wastraff dynol y dinasoedd yn cael ei brosesu bob blwyddyn heb seilwaith peirianyddol. Mae hynny’n cynnwys gwastraff geudai pwll sy'n hidlo trwy'r pridd yn raddol - ac mae’r broses naturiol yn ei lanhau cyn iddo gyrraedd dŵr daear.
“Gall byd natur chwarae rôl seilwaith glanweithdra ac yn wir mae’n gwneud hynny. Er nad ydym yn dibrisio y rôl hanfodol sydd i seilwaith peirianyddol, credwn y byddai gwell dealltwriaeth o sut mae seilwaith peirianyddol a seilwaith naturiol yn rhyngweithio’n fodd i addasu’r dylunio a’r rheoli, lleihau costau, a gwella effeithiolrwydd a chynaliadwyedd, a diogelu bodolaeth barhaus yr ardaloedd hynny o dir.” meddai Alison Parker, Uwch Ddarlithydd mewn Dŵr a Glanweithdra Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cranfield yn y Deyrnas Unedig ac un o awduron yr astudiaeth.
Mae seilwaith trin dŵr gwastraff sy'n troi baw dynol yn gynhyrchion diogel yn offeryn pwysig yn iechyd pobl yn fyd-eang. Fodd bynnag, nid oedd gan fwy na 25% o boblogaeth y byd gyfleusterau glanweithdra sylfaenol yn 2017 ac roedd 14% yn rhagor yn defnyddio toiledau a waredai’r gwastraff ar y safle. Er y gallai peth o'r gwastraff hwn fod yn beryglus i boblogaethau lleol, awgryma’r ymchwil blaenorol fod gwlypdiroedd a mangrofau naturiol, er enghraifft, yn cynnig triniaeth effeithiol.
Mae gwlypdir Navikubo yn Wganda’n prosesu dŵr gwastraff heb ei drin o fwy na 100,000 o aelwydydd, ac mae hynny’n amddiffyn Bae Murchison a Llyn Victoria rhag halogion niweidiol, ac yn yr Unol Daleithiau mae gwlypdiroedd arfordirol yng Ngwlff Mecsico yn tynnu nitrogen o Afon Mississippi.
“Fe wnaethon ni sylweddoli fod byd i natur o reidrwydd yn cyflawni gwasanaethau glanweithdra, oherwydd nad oes gan gynifer o bobl yn y byd ddim seilwaith peirianyddol fel carthffosydd,” ychwanega Simon Willcock, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig, ac un o awduron eraill yr astudiaeth. “Ond doedd fawr ddim cydnabyddiaeth i rôl byd natur.”
Er mwyn deall yn well sut mae ecosystemau naturiol yn prosesu gwastraff, fe wnaeth tîm Prifysgol Bangor, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Durham, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol Hyderabad (India) a Rhwydwaith Gweithredu Dŵr Ffres, De Asia, fwrw amcan ynghylch gwasanaethau ecosystemau glanweithdra 48 o ddinasoedd sy'n cynnwys tua 82 miliwn o bobl trwy ddefnyddio Diagramau Llif Carthion, sy'n defnyddio cyfuniad o gyfweliadau personol, arsylwadau anffurfiol a ffurfiol, a mesuriadau maes uniongyrchol i ddogfennu sut mae carthion dynol yn llifo trwy ddinas neu dref.
Bu’r ymchwilwyr yn asesu’r holl ddiagramau a oedd ar gael ar Ragfyr 17, 2018, gan ganolbwyntio ar y rhai a oedd wedi’u codio fel “slwtsh carthol heb ei wagio” (FSCNE), a’r gwastraff yn mynd i geudy pwll neu danc septig o dan y ddaear, ond nad yw’n peri risg i ddŵr daear, er enghraifft oherwydd bod lefel y trwythiad yn rhy ddwfn.
Mae natur yn darparu glanweithdra
Tanbrisio gwasanaethau ecosystemau glanweithdra
O fwrw amcan ceidwadol, mae Willcock a’i gydweithwyr yn amcangyfrif bod natur yn prosesu 2.2 miliwn o fetrau ciwbig o wastraff dynol y flwyddyn yn y 48 dinas hyn. Oherwydd bod mwy nag 892 miliwn o bobl ledled y byd yn defnyddio cyfleusterau gwaredu gwastraff toiledau fel y rhain ar y safle, maent yn amcangyfrif hefyd bod natur yn glanweithio tua 41.7 miliwn o dunelli o wastraff dynol y flwyddyn cyn i'r hylif fynd i mewn i'r dŵr daear - gwasanaeth sy'n werth tua $4.4 biliwn y flwyddyn.
Fodd bynnag, noda'r awduron fod yr amcangyfrifon hyn yn debygol o danbrisio gwir werth gwasanaethau ecosystemau glanweithdra, oherwydd gall y prosesau naturiol gyfrannu at ddulliau eraill o brosesu dŵr gwastraff, er ei bod yn anoddach meintioli'r rheini.
Mae Willcock a’i gydweithwyr yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau’n taflu goleuni ar y cyfraniad mawr y mae byd natur yn ei wneud i fywydau beunyddiol llawer o bobl er nad oes cydnabyddiaeth i hynny’n aml iawn, a hynny’n fodd i amddiffyn ecosystemau fel y gwlypdiroedd sy'n amddiffyn cymunedau i waered afon rhag llygryddion y dŵr gwastraff.
“Hoffem hybu gwell cydweithrediad rhwng ecolegwyr, ymarferwyr glanweithdra a chynllunwyr dinasoedd i helpu byd natur a’r seilwaith weithio’n well gyda’u gilydd, ac amddiffyn byd natur ac yntau’n darparu gwasanaethau glanweithdra,” meddai Parker.