Bwriedir i’r cyfieithiad newydd, sydd wedi ei ariannu gan Merched y Wawr a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, gyrraedd aelodau Cymraeg eu hiaith sydd â diddordeb mewn ychwanegu at eu gwybodaeth am ddementia. Mae'r fersiwn wedi'i diweddaru o'r llyfryn yn cynnwys cysylltiadau allweddol â sefydliadau cefnogol perthnasol yn ogystal ag ymatebion gan siaradwyr Cymraeg, sy'n byw â dementia yng Nghymru.
Meddai Glenda Roberts sy'n byw â dementia:
"Pan welais y llyfryn hwn gyntaf ar ôl fy niagnosis o ddementia roedd popeth yn gwneud synnwyr. Nid oes angen i chi ofni dementia - mae bywyd yn mynd yn ei flaen."
Ychwanegodd Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd:
“Mae rhyddhau'r llyfryn hwn yn gam pwysig ymlaen i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg sy'n byw â dementia ac o bosib yn cael symptomau ar wahân i golli cof, yn cael mynediad at gefnogaeth. Bu hyn yn bosib dim ond oherwydd y gefnogaeth barhaus a roddir gan Merched y Wawr, yn benodol, aelodau ym Mhencader, Caerfyrddin a’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac yn naturiol yr holl unigolion a rannodd eu profiadau a'u hawgrymiadau a gyfrannodd at y cyhoeddiad gwreiddiol. Bydd copïau electronig hefyd ar gael ar wefan Prifysgol Bangor ac rydym yn bwriadu adeiladu ar y gwaith hwn yng Nghymru wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddeall yr heriau i’r synhwyrau sy'n wynebu pobl sy'n byw â dementia."
Cafodd y llyfryn gwreiddiol, a ariannwyd gan y Life Changes Trust, ei ysbrydoli a’i greu yn 2015 gyda geiriau pobl â dementia i roi syniadau i ddarllenwyr am sut i gefnogi pobl sy’n byw â dementia, sut i’w deall a’u cynnwys, ac i sicrhau nad yw unigolion yn teimlo'n ynysig mwyach.
Yn dilyn rhyddhau'r llyfryn wedi'i ddiweddaru, mae potensial i wneud ymchwil pellach sydd wir ei angen, gan weithio gyda phobl i gynyddu ein dealltwriaeth o'r effaith y gall dementia ei chael ar y synhwyrau fel blasu, arogli a chlywed.
Dywedodd Sarah Bant sy’n Uwch Awdiolegydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Rwy’n falch iawn o weld yr adnodd rhagorol hwn ar gael yn y Gymraeg. Er bod cymaint o bobl yn sôn am yr heriau hyn i’r synhwyrau, nid yw’n wybodaeth gyffredin hyd yma. Rwy’n hyderus y bydd rhannu’r llyfr hwn yn helpu i newid hyn.
Gall heriau clywed wneud i rywun deimlo mor ynysig. Mae gwasanaethau awdioleg y GIG ar hyd a lled Cymru yn gweithio i ddeall a chefnogi pobl sy'n byw â dementia ac anawsterau clywed. Cysylltwch â'ch meddygfa leol os oes angen help neu asesiad arnoch chi."
Dementia a heriau i’r synhwyrau - Gall dementia effeithio mwy na’r cof
Mae Catrin Hedd Jones, darlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor ac aelod o Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru, wedi gweithio gydag arbenigwr blaenllaw yng Nghymru ac aelodau o Merched y Wawr i gyfieithu a diweddaru'r llyfryn Dementia & Sensory Challenges – Dementia can be more than Memory i gefnogi codi ymwybyddiaeth am yr heriau i’r synhwyrau i [rai] pobl sy'n byw â dementia trwy gyfrwng y Gymraeg.