Mae samplau dŵr o bob rhan o'r wlad wedi eu hanfon i'r brifysgol i weld faint o ddarnau microplastig sydd ynddynt.
Mae'r dŵr, sy’n dod o afonydd a llynnoedd, wedi ei gasglu gan lu o nofwyr awyr agored gwirfoddol a’i anfon mewn ... poteli gwin.
Ar ôl cyrraedd y brifysgol, caiff y poteli gwin llawn dŵr eu dadansoddi’n ofalus gan Dr Christian Dunn a thîm o fyfyrwyr ymchwil i chwilio am ddarnau bach o blastig sy'n arnofio ynddynt..
'Waterloggers'
Wrth egluro'r project, meddai Dr Dunn:
"Roeddem eisiau edrych ar gynifer o wahanol ddyfrffyrdd mewndirol â phosib a gweld pa mor fawr yw problem llygredd microplastig ym mhob un ohonynt.
"Felly gwnaethom ymuno â Laura Sanderson, nofiwr gwyllt proffesiynol, a'r sefydliad We Swim Wild, a meddwl am y syniad o gael nofwyr gwyllt i anfon samplau atom o’r ardaloedd maent yn nofio ynddynt yn rheolaidd.
"Mae'r ymateb wedi bod yn aruthrol ac mae'r gwirfoddolwyr - rydym yn eu galw’n ‘Waterloggers’ - wedi bod yn hynod gefnogol."
“Gwnaethom benderfynu defnyddio poteli gwin gyda chaead sgriw i’r samplau ar ôl i arbrofion cychwynnol ddangos eu bod cystal â photeli labordy drud; ac mae'n gwneud paratoi'r offer samplu’n bleser, braidd!"
Meddai Dr Dunn.
Ynghyd â threfnu'r gwirfoddolwyr i gasglu'r samplau, mae We Swim Wild wedi codi arian i dalu i ddanfon y poteli yn ôl fel rhan o'i nod o gyfuno gweithgareddau antur ag ymchwil gwyddonol.
Credir mai'r project hwn yw'r project gwyddoniaeth lleygwyr mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Bailey Taylor, un o'r myfyrwyr sy'n ymwneud â'r ymchwil:
"Rydym yn cael samplau o bob sir yn y Deyrnas Unedig ac mae'n wych gwybod ein bod yn rhan o broject mor fawr sy’n arwain at ganfyddiadau pwysig.