Mae dad-ddofi yn ddull cadwraeth sy'n cael ei arwain gan natur, sy'n cynnwys rhoi mwy o le i natur, atgyweirio cynefinoedd sydd wedi'u difrodi ac adfer bywyd gwyllt a gollwyd, wrth leihau dylanwad dynol i hyrwyddo prosesau naturiol. Mae'n cael ei hyrwyddo fel ffordd ragweithiol i fynd i'r afael â'n hargyfyngau amgylcheddol byd-eang, nid yn unig amddiffyn bywyd gwyllt sy'n bodoli, ond rhoi mwy o ryddid a lle i natur ffynnu - dysgu oddi wrth natur yn hytrach na cheisio ei feicro-reoli.
Er bod dad-ddofi wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd, mae'n dal i fod yn newydd iawn ac weithiau'n cael ei herio. Felly, mae galw mawr am set o ganllawiau i gefnogi llywodraethau a chadwraethwyr. Mae Tasglu Dad-ddofi yr International Union for Conservation of Nature wedi bod yn gweithio ar yr her hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynnal ymchwil ac ymgynghori rhyngwladol helaeth ymhlith ymarferwyr ac arbenigwyr blaenllaw ym maes dad-ddofi. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd yr 'Egwyddorion Arweiniol ar gyfer Dad-ddofi' yn ‘Conservation Biology’ [17.3.21].
Mae ymchwil Dr Sophie Wynne Jones, un o’r rhai a gyfrannodd at yr egwyddorion, yn ystyried dimensiynau cymdeithasol dad-ddofi, sy'n agwedd hanfodol ar y canllawiau a ddatblygwyd. Mae ei hymchwil yng Nghymru wedi bod yn ganolog i'r ddealltwriaeth y mae'n ei chyflwyno yn yr adroddiad.
Dad-ddofi
Coetir Anian
Meddai:
“Rydyn ni'n wynebu heriau mawr ac, yn fyd-eang, mae angen i ni newid ein hagweddau tuag at y byd naturiol. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae angen egwyddorion arnom i arwain ymdrechion rhyngwladol i adfer ecosystemau'r byd.
Mae dad-ddofi yn ddull cyffrous, mae'n newid pwyslais cadwraeth o amddiffyn yr hyn sydd gennym, i ni feddwl yn ehangach a bod yn fwy uchelgeisiol. Mae angen i ni edrych y tu hwnt i warchodfeydd natur a safleoedd arbennig i greu mwy o le i natur a'r prosesau naturiol sydd arnom ni i gyd eu hangen i oroesi ar y blaned hon.
Ond os ydym am gofleidio dad-ddofi, mae angen i ni gynnwys pawb y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt. Yn fy ngwaith fy hun yng Nghymru rwyf wedi archwilio pryderon y gymuned ffermio, gan gynnwys effaith dad-ddofi ar fywoliaeth a’r effeithiau diwylliannol.
Er enghraifft, yng Nghymru, mae ffermwyr yn poeni y gallai eu da byw a'u tir amaethyddol fod dan fygythiad, yn ogystal â'u treftadaeth a'u traddodiadau cymunedol. Maent hefyd yn poeni na fydd ganddynt lais ym mha ddulliau a gymerir, ac y bydd penderfyniadau ynghylch newid defnydd tir y tu hwnt i'w rheolaeth. Er bod gan ddad-ddofi y potensial i wella lles dynol a naturiol, gall hefyd fod yn achos straen a phryder mawr i rai.
Mae'n bwysig ystyried y pryderon hyn a gweithredu mesurau cadwraeth mewn ffordd sy'n lleihau effeithiau negyddol ar gymunedau preswyl i ennill eu cefnogaeth a'u hymgysylltiad. Ledled y byd mae ymdrechion cadwraeth yn methu oherwydd nad yw'r bobl sy'n byw ochr yn ochr â'r projectau hyn yn fodlon cymryd rhan a chefnogi'r ymdrechion hyn, neu ddim yn teimlo y gallent. Roedd yn hanfodol felly ein bod yn pwysleisio'r materion hyn yn yr 'Egwyddorion Arweiniol ar gyfer Dad-ddofi'.”
Gan ymateb i'r dealltwriaethau hyn, mae egwyddorion y Tasglu Dad-ddofi yn amlinellu'r angen am ymgysylltiad a chefnogaeth leol, fel y gall dad-ddofi gynnwys yr holl randdeiliaid, ac y gellir cynnwys gwybodaeth leol fel rhan allweddol o'r broses.
Mae Dr Wynne-Jones yn amlinellu pa mor bwysig fu ymgymryd ag ymchwil yng Nghymru i gefnogi datblygiad y mesurau rhyngwladol hyn:
“Er nad yw Cymru efallai mor egsotig â rhai llefydd ar raglenni teledu bywyd gwyllt, mae’r Deyrnas Unedig yn safle o bwys i ddatblygu dad-ddofi, gyda phrojectau nodedig yng Nghymru yr ydw i wedi gweithio gyda nhw i ddeall yn well yr heriau posibl sydd ar droed. Nid yw dod o hyd i atebion i ddiwallu anghenion pawb bob amser yn bosibl, ond trwy gynnal ymchwil gyda rhanddeiliaid rydym mewn sefyllfa well i werthfawrogi problemau a gweithio tuag at eu datrys yn effeithiol."
Yn ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mae Dr Wynne-Jones wedi derbyn cyllid o'r blaen trwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith ar ddad-ddofi. Mae ei gwaith yn gysylltiedig â Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts.