Podlediad gan raddedigion Bangor yn cael cameo yn Hollywood a sylw gan y BBC
Mae Julian Lewis Jones, seren Invictus gan Clint Eastwood a Justice League gan Zack Snyder, wedi sicrhau bod podlediad gan rai o raddedigion Bangor, Culture My Arts, yn cael cameo.
Mae Julian Lewis Jones, seren Invictus gan Clint Eastwood a Justice League gan Zack Snyder, wedi sicrhau bod podlediad gan rai o raddedigion Bangor, Culture My Arts, yn cael cameo.
Gwnaed Culture My Arts, a ddisgrifir fel cyfuniad o sioe radio, drama sain a phodlediad, yn annibynnol gan 15 o raddedigion Bangor rhwng y cyfnodau clo, ac yn ddiweddar mae wedi cyrraedd rhif 6 yn yr Apple Podcast UK Comedy Fiction charts.
Dechreuodd Culture My Arts ym Mhrifysgol Bangor, yn wreiddiol fel project traethawd israddedig Finnian Shardlow, a enillodd y wobr am draethawd hir gorau yn seiliedig ar ymarfer yn 2018.
Yr un flwyddyn, comisiynwyd dwy bennod o Culture My Arts gan BBC Radio Stoke. Cafodd y penodau eu hysgrifennu a'u recordio yn ystod cwrs Meistr Finnian yn 2018/19 tra roedd llawer o'r cast yn dal yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl blwyddyn o saib, penderfynodd Culture My Arts ryddhau cyfres 6 phennod yn annibynnol ddiwedd 2020. Recordiwyd y gyfres yng nghartref ysbrydol y project ym Mangor rhwng dau brif cyfnod clo Covid-19.
Culture my Arts
Mae 15 o bobl, i gyd yn gyn-fyfyrwyr Bangor, o amrywiaeth o leoedd yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig ynghlwm wrth Culture My Arts. Mae'r rhestr lawn yn cynnwys: Finnian Shardlow, LJ Farrell, Charl Thom, Ben Cookson, Byron Dean, Jim Langford, Lewis Hall, Lowri Cêt Jones, Dafydd Pattinson, Paige Brook, Dion Davies, Beth Smith, Elliott Aboagye, Rachel Malbon a Connor Flinn.
Cyfarfu llawer o'r cast ei gilydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth a Chyfryngau. Ond mae rhai o’r aelodau wedi gwneud graddau mewn Gwyddorau Iechyd, Bioleg y Môr, Seicoleg, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg.
Cyfarfu rhai o gast Culture My Arts hefyd trwy aelodaeth o glybiau a chymdeithasau Undeb Myfyrwyr y brifysgol fel Seren, BEDS, FilmSoc a Storm FM.
Mae miloedd o wrandawyr wedi gweld cyfres gyntaf y podlediad hyd yma, gydag amrywiol sgetsys o'r podlediadau wedi eu darlledu ar BBC Merseyside, Sheffield, Stoke, Berkshire, Sussex Three Counties a Cambridge.
Mae Culture My Arts yn galw ei hun yn bodlediad ffuglen ddychanol wedi ei sgriptio'n llawn. Mae'n cynnwys parodïau o sioeau radio ac yn dychan teledu, ffilm, cerddoriaeth, llenyddiaeth, materion cyfoes a llawer mwy. Yn y bôn, newyddion ffug o ddimensiwn arall ydyw.
Mae cyfres 1 yn cynnwys 6 phennod sy'n cynnwys parodïau gwirion o ffilmiau, dychan gwleidyddol brathog, sylwebaeth gymdeithasol ddoniol, parodïau cerddorol gwirion, swrrealaeth di-wên, jôcs cawslyd, gohebwyr ecsentrig a newyddion ffug.
Ochr yn ochr â'r podlediad, mae Culture My Arts hefyd yn cyhoeddi fideos a sgetsys ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae fideos hyrwyddo diweddar wedi cynnwys ymddangosiadau doniol gan Henry Williams, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor.
Mae ganddynt hefyd fideo cerddoriaeth sy’n cyd-fynd â’u cân rap gomedi, 'Dropped My Kebab', am y drychineb o ollwng eich cebab ar lawr noson allan. Cafodd y fideo ei ffilmio mewn sawl lleoliad o amgylch Bangor, ac mae'r gân wedi cael ei darlledu ar raglenni radio lleol y BBC.
Mae’r ail gyfres wrthi’n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd i'w rhyddhau yn 2021 ar ôl ymgyrch lwyddiannus Patreon sydd wedi sicrhau bod Culture My Arts yn gallu adennill eu costau cynhyrchu.