Academi Fusnes Gogledd Cymru'n helpu Bonnie cynllunio at y dyfodol ar gyfer parlwr hufen iâ cyntaf Eryri
Mae parlwr hufen iâ a pizzeria teuluol am ddechrau cynhyrchu siocledi cartref a chyfanwerthu - a dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed o’r diwedd.
Bonnie Rowley yw'r drydedd genhedlaeth o'r teulu i redeg Parlwr Hufen Iâ a Pizzeria Glaslyn ym Meddgelert lle mae'r Eidal â Chymru’n cwrdd yng nghanol Eryri.
Er i’r clo mawr ohirio’r parti pen-blwydd, bu’n gyfle hefyd i’r busnes ddod yn fwy hyblyg ac arloesol.
Maent yn cyfanwerthu potiau o’u hufen iâ arobryn i fwytai, caffis a siopau yn Eryri ledled y gogledd, clicio a chasglu pitsas a wafflau cartref ac yn ddiweddarach eleni bydd siocledi ar thema hufen iâ.
Mae gan eu pitsas enwau Cymraeg fel Gelert, Eryri a Llywelyn ac maen nhw'n defnyddio cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd.
Cawsant ysbrydoliaeth i ehangu’r busnes pan oedd Bonnie ar gwrs busnes a gynhaliwyd gan Academi Fusnes Gogledd Cymru, ar y cyd rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr.
Hufen iâ cartref
Mae hi eisoes wedi troi swyddi tymhorol a rhan-amser yn y caffi-fwyty yn Beddgelert yn swyddi amser llawn, trwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Bonnie, 32: "Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â chynaliadwyedd. Inni mae hynny'n golygu gofalu am ein tîm, ein cymuned, ein cwsmeriaid, yr amgylchedd a'r blaned trwy anelu at fod yn garbon niwtral.
“Rydym yn nodi 50 mlynedd mewn busnes ond mae hefyd yn ymwneud â Covid-19 ac ymateb i fyd sy’n newid - byddai’n braf cynnal parti ond bydd yn rhaid aros am y tro.
“Dechreuodd y busnes yn y 1940au a nain a taid yn gwerthu cynhyrchion tecstilau ledled y gogledd ond ym 1970 fe wnaethant brynu'r caffi a'r siop ym Meddgelert, rhoi peiriant gweini hufen iâ meddal yn y ffenestr ond mae hynny’n hen hanes erbyn hyn.
“Aeth nain a taid ar wyliau ac mi fanteisiodd fy nhad, Derek, ar hynny a thaflu’r tecstilau allan, troi’r siop yn barlwr hufen iâ a chanolbwyntio ar y caffi gyda fy mam, Elaine.”
Daeth y pitsas yn ddiweddarach ond yr hufen iâ cartref oedd conglfaen y busnes o’r cychwyn. Ymunodd Bonnie, a wrthododd yrfa fel Rheolwr Arlwyo yn Coventry gydag English Heritage, â'r busnes yn 2016.
Graddiodd hithau ym Mhrifysgol De Cymru a hi bellach sydd wrth y llyw a dywedodd: “Yn y busnes y bu fy nghalon i erioed mewn gwirionedd, yn helpu fy nhad wneud hufen iâ, a mam, Elaine, sy’n gogydd, yn rhedeg y caffi.
“Prynais y busnes y bûm yn gweithio ynddo y rhan helaethaf o ‘mywyd ac mae gennym dîm craidd o 10 o weithwyr gan gynnwys fi fy hun.
“Cafodd y tîm eu rhoi ar ffyrlo yn ystod y cyfnod clo diweddar ond rydym yn paratoi ar gyfer llacio’r cyfyngiadau a byddwn yn recriwtio mwy o staff, gan gynnwys myfyrwyr ar gontractau tymhorol dros y gwyliau a'r penwythnosau."
Rhoddodd y cwrs Dadansoddi Busnes Strategol sylfaen iddi ym maes rhedeg busnes ac mae hi hefyd wedi rhoi ei rheolwr arlwyo, Beth Williams, trwy gwrs marchnata digidol gyda’r Academi Fusnes.
Mae'r wybodaeth a'r sgiliau a enillodd Bonnie wedi ei helpu hi greu swyddi trwy gydol y flwyddyn yn lle gwaith tymhorol, cadw sgiliau a gwybodaeth ynghyd â chreu swyddi parhaol yn lleol.
Dywedodd Lesley Rider, Rheolwr Prosiect NWBA Prifysgol Bangor: “Mae gennym ni system fentora ac mae mentor Bonnie, Lawrence Cox, wedi cadw mewn cysylltiad clos a bu’r cynlluniau a roesant ar waith yn help mawr trwy anawsterau 2020.
“Yn hytrach nag adweithio i’r sefyllfa fel y gwnaeth llawer o rai eraill, llwyddodd Bonnie i edrych yn ôl ar y cynlluniau a oedd ganddi i ddatblygu’r busnes ac ehangu’r cynnyrch yn y tymor hir ac ystyried pa newidiadau yr oedd angen eu gwneud i gadw'r busnes ar y trywydd iawn.
“Mae'n fuddiol i fusnesau gymryd cam yn ôl a gweld y darlun mawr. Os ydych chi’n adweithio i bethau’n ddi-baid does dim amser i fynd ar gyrsiau, ond mae cyrsiau'n helpu perchnogion busnes feddwl yn arloesol ac yn greadigol ac ni fu hynny erioed yn bwysicach."
Mae dros 300 o gwmnïau wedi dilyn cyrsiau NWBA ers ei lansio ac yn ystod y chwe mis diwethaf mae 105 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar y cyrsiau cyfryngau cymdeithasol sydd ganddo i fusnesau.
Mae'r bwrdd cyfarwyddwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Y Siambr Fasnach, Cyngor Busnes Cymru, a Ffederasiwn y Busnesau Bach. Caiff ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Bonnie: “Bu’r cyfnod clo’n fodd imi gynllunio cynnyrch newydd at y gaeaf, y siocledi hufen iâ, i gefnogi’r dull newydd o staffio ac mi wnaethom droi at gyfanwerthu i gyflenwi tybiau o’n hufen iâ arobryn i wersyllfa leol.
“Daeth y teulu ynghyd i helpu a chreodd fy mrawd, Adam, sy’n actor yn Llundain, wefan ar gyfer clicio a chasglu archebion tecawê ac mae’r wefan bellach yn rhan o’r cynlluniau sydd gennym i gwsmeriaid allu archebu siocledi Nadolig ar-lein.
“Buom yn arloesol erioed - mae’n debyg mai ni oedd un o’r llefydd cyntaf i gynnig pitsa pan ddechreuodd mam ei wneud a ni oedd y parlwr hufen iâ cyntaf yn Eryri.
“Rydyn ni i gyd yn caru’r Eidal, y diwylliant a’r bwyd ond ceisiwn wneud pethau yn ein ffordd ein hunain ac mae enwau’r pitsas yn Gymraeg ac rydyn ni’n defnyddio cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd.
“Daethom ag arbenigwr ar bitsa yma o’r Eidal i weithio gyda ni ac mae ein hufen iâ gorau’n debycach i gelato traddodiadol ond yn defnyddio llaeth a menyn Cymru.”
Ymhlith y cynhwysion mae porc lleol yn ogystal â chawsiau crefftus o Gymru, madarch a chwrw crefftus Eryri o fewn 30 milltir a saws sbeislyd Maggie o Ben-y-groes.
Mynd ati i gyfanwerthu hufen iâ yw’r cam mawr a dywedodd Bonnie: “Roedd y meysydd gwersylla wedi gofyn am gyflenwadau gennym ers blynyddoedd ac roeddwn i'n teimlo ein bod ni'n colli allan.
“Fe wnes i gysylltiadau â phobl trwy Academi Fusnes Gogledd Cymru ac rydyn ni wedi bwrw ymlaen a hynny heb golli safon.
“Mae'n ychwanegu at y busnes ac mae’n ein diogelu rhag gorfod dibynnu ar dwristiaeth yr haf ac mae’n rhoi ffynhonnell incwm amgen inni trwy gydol y flwyddyn.”
Partneriaeth yw Academi Fusnes Gogledd Cymru rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam Glyndwr, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnig llefydd ar gyrsiau i fusnesau cymwys yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych a hynny hyd at gymhorthdal llawn.
I gael mwy o wybodaeth am Academi Fusnes Gogledd Cymru ewch i https://www.eventbrite.co.uk/o/north-wales-business-academy-nwba-28456292381