Bydd y ffilm o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales o’r opera sy’n torri tir newydd, ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim o 7 o’r gloch heno (nos Fercher 14 Ebrill 2021) ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru ac ar AM fel rhan o raglen Theatr Gen Eto Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd yno am gyfnod o 6 mis, ac ar gael yn barhaol ar wefan y cwmni fel adnodd addysgol ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Mae Y Tŵr yn archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd. Yn seiliedig ar waith Gwenlyn Parry, un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru, mae’r opera wreiddiol a theimladwy hon yn adrodd stori oesol gyffredin am gariad a bywyd, a’r cyfan wedi’i osod o fewn tŵr y teitl – sy’n drosiad ar gyfer unrhyw berthynas – wrth i’r ddau gymeriad, a genir gan y soprano Caryl Hughes a’r bariton Gwion Thomas, symud i fyny o un lefel i’r nesaf, a phob lefel yn cynrychioli moment arbennig yn eu perthynas, o gyffro cariad ifanc i effeithiau dinistriol henaint.
Y Tŵr oedd yr opera gyntaf erioed i’w chomisiynu yn Gymraeg ar gyfer perfformwyr proffesiynol, a’r ail gynhyrchiad i Music Theatre Wales ei gyflwyno yn y Gymraeg. Y Tŵr hefyd oedd yr opera gyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru ei chyflwyno.
Cynhaliwyd premiere byd cyntaf yr opera yn 2017 yn Theatr y Sherman, Caerydd fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, ac yn dilyn hynny mewn amryw o ganolfannau ledled Cymru yn ogystal ag yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton.
Y Tŵr yw’r trydydd cynhyrchiad ar ddeg i gael ei rannu fel rhan o raglen Theatr Gen Eto ers y cyfnod
clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Mae hefyd yn nodi moment gyffrous yn natblygiad MTW fel y tro
cyntaf i un o gynyrchiadau’r cwmni gael ei ffrydio, ac ar ddechrau eu cyfnod o greu cyfuniad o waith
a grëwyd yn benodol ar gyfer ei berfformio’n ddigidol ac yn fyw.
‘Cynhyrchiad i’w ganmol i’r entrychion.’
BBC Radio Cymru
‘The first contemporary operatic work written in the Welsh language,
it breaks important new ground’
The Guardian
‘A cracking psychological drama – both realistic and surreal, metaphysical and mysterious at the
same time . . . These are towering talents’
The Times
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:“Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle hwn i rannu ein cyd-gynhyrchiad o’r opera Y Tŵr fel rhan o’n rhaglen Theatr Gen Eto. Y cyd-gynhyrchiad gyda Music Theatre Wales oedd y tro cyntaf i ni fentro i fyd opera, ac roedd yn gyfle gwych i ni ail-ddychmygu drama Gwenlyn Parry ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Y gwanwyn hwn, rwy’n arbennig o falch ein bod yn gallu rhannu opera yn y Gymraeg ar-lein gyda chynulleidfa fyd-eang.”
Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales a chyfarwyddwr y
cynhyrchiad:
“Pleser o’r mwyaf yw ymuno â’n partneriaid cyd-gynhyrchu yn Theatr Genedlaethol Cymru i rannu’r
opera gyntaf deimladwy a hynod arwyddocaol hon yn Gymraeg gyda chynulleidfaoedd ym mhob cwr
o Gymru ac ymhell y tu hwnt i’w ffiniau. Mae opera yn ffurf gwbl ryngwladol o gelfyddyd, sy’n cael ei
hysgrifennu a’i pherfformio mewn sawl gwahanol iaith, ac yn awr gellir cael profiad ohoni’n cael ei
chanu mewn Cymraeg gloyw, gyda’r ddrama’n cael ei chefnogi gan gapsiynau caeedig Cymraeg a
Saesneg. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r perfformwyr a chwmni cynhyrchu Y Tŵr am sicrhau bod y
ffrydio hwn yn digwydd, a hoffwn eu llongyfarch unwaith eto ar eu camp anhygoel.”
Lansiwyd Theatr Gen Eto gan Theatr Genedlaethol Cymru fel rhaglen newydd o waith mewn ymateb
i bandemig y Coronafirws. Mae’n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau o’r gorffennol ar
sgrin tra bod pob theatr ledled Cymru a thu hwnt ar gau.