Wedi ei gyhoeddi heddiw gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac o dan arweiniaeth prifysgolion Bangor ac Abertawe, mae cyfanswm o dair academi.
Mae hyn yn rhoi Cymru ar y blaen fel y wlad gyntaf yn y byd i lansio academïau dysgu dwys arbenigol a fydd yn sicrhau newid ym maes iechyd ataliol, iechyd a gofal yn seiliedig ar werth, ac arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae buddsoddiad gwerth £9m wedi galluogi prifysgolion blaenllaw yng Nghymru i greu amrywiaeth o gyrsiau hyblyg sy'n cynnwys cyfleoedd ar lefel gradd yn y meysydd hyn. Maent yn gyfle i weithwyr proffesiynol o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gwyddorau bywyd ledled y byd ddysgu gyda'i gilydd.
Gellir gwneud cais am le ar y rhaglenni hyn bellach. Bydd y cyrsiau, y gellir gwneud llawer ohonynt o bell, yn hyfforddi ac yn paratoi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang i gefnogi systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Maent yn darparu ar gyfer y galw rhyngwladol gan weithwyr proffesiynol yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt. Bydd hyn yn cynorthwyo i hyrwyddo safle Cymru ymhellach fel arweinydd byd-eang ym maes arloesi ac arweinyddiaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn ymarfer.
Bydd yr academïau dysgu dwys hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori wedi eu teilwra. Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau unigol i nodi, datblygu a chydweithio ar arferion arloesol i ymdrin â’r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.
ALPHAcademy ym Mhrifysgol Bangor
Mae twf y farchnad iechyd ataliol eisoes yn amlwg yn fyd-eang. Wrth i fwy o wledydd ledled y byd ymchwilio i ymyriadau a thechnolegau ymddygiadol a all atal afiechydon ac anableddau, mae'r ALPHAcademy yn sefydlu hyfforddiant ac ymchwil pwrpasol i gynorthwyo pobl i fyw bywydau iachach a hirach, er mwyn gwireddu eu potensial, ymdopi â phwysau arferol bywyd, gweithio'n gynhyrchiol a chyfrannu at eu cymuned a thu hwnt.
Datblygwyd yr academi mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gefnogi a datblygu arweinwyr a all chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid systemau a sefydliadau i sicrhau bod iechyd ataliol yn cael lle canolog.
Cynhelir gweithdai yn yr haf a bydd cyrsiau gyda chredydau yn dechrau ym mis Medi 2021. Bydd rhaid i bobl sydd eisiau gwneud cais am ysgoloriaeth academïau dysgu dwys wneud hynny erbyn dydd Gwener, 28 Mai.
Meddai’r Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae sicrhau iechyd ein gwlad yn gofyn am ymdrech sylweddol a pharhaus i atal salwch a chefnogi iechyd corfforol a meddyliol da. Mae atal salwch yn ymwneud â helpu pobl i gadw'n iach, i fod yn hapus ac yn annibynnol cyhyd â phosib. Rydym yn gwybod bod iechyd ataliol yn gweithio ac yn gallu arwain at fuddion cymdeithasol sylweddol, a all yn ei dro hybu iechyd ein heconomi.
Felly bydd buddsoddi mwy mewn iechyd ataliol ac mewn datblygu'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i ysgogi newid yn arwain at fuddion mawr ledled Cymru. Bydd yr academïau arloesol hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i arweinwyr a darpar arweinwyr o bob sector ddysgu trwy wneud, a sefydlu ffyrdd newydd o weithio a chydweithio sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”
Ceir rhagor o wybodaeth am yr academïau newydd yn:
https://lshubwales.com/cy/ADD-Cymru