Y grŵp cyntaf o weithwyr cymorth gofal iechyd Gogledd Cymru yn graddio fel Nyrsys
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o longyfarch y garfan gyntaf o weithwyr cymorth gofal iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a gwasanaethau gofal sylfaenol y GIG ar gwblhau eu rhaglen Baglor Nyrsio i ddod yn nyrsys cofrestredig.
Ar ôl cyflawni rhaglen lefel 4 ofynnol yng Ngholeg Llandrillo, cafodd y myfyrwyr hyn eu secondio ar y rhaglen BN rhan amser ym Mhrifysgol Bangor gan eu cyflogwyr GIG. Comisiynir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r cwrs, ac mae'n rhedeg am 23 awr yr wythnos dros 2 flynedd a 9 mis. Mae'r cyfle gwych hwn yn cydnabod y gweithlu gofal iechyd talentog yng Ngogledd Cymru, trwy gynnig llwybr dilyniant gyrfa i weithwyr cymorth gofal iechyd presennol y GIG.
Dywedodd Gill Truscott, arweinydd cwrs y rhaglen Nyrsio ran-amser ym Mhrifysgol Bangor:
“Hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr am eu gwaith caled parhaus, eu hymrwymiad a’u hymroddiad trwy gydol pandemig Covid; mae eu dycnwch a'u cyflawniadau ar yr adeg hon yn arbennig o glodwiw. Roedd ymrwymiad diysgog y myfyrwyr ynghyd â’n gwaith partneriaeth yn galluogi pawb i gwblhau fel y trefnwyd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r timau nyrsio yn BIPBC am gefnogi eu cydweithwyr i ddod yn nyrsys cymwys. Rydym yn llongyfarch pob myfyriwr yn ddiffuant ar eu llwyddiannau aruthrol ac yn dymuno'n dda iddynt i gyd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."
Mae un o'r myfyrwyr llwyddiannus, Lynda, sydd bellach yn nyrs gofrestredig yn Ysbyty Gwynedd, yn esbonio sut mae'r llwybr newydd hwn i nyrsio wedi ei helpu:
“Rwyf bob amser wedi bod eisiau datblygu fy ngyrfa i ddod yn nyrs, ond roedd amgylchiadau personol yn fy atal. Pan gododd y cyfle hwn, fe wnes i fanteisio yn syth. Er ei bod hi’n heriol ceisio jyglo popeth, roedd y gefnogaeth gan y Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol yn rhagorol - yn enwedig gan fy nhiwtor personol. Rwy'n argymell yn llwyr i unrhyw weithiwr cymorth gofal iechyd sydd am ddod yn nyrs i gyflawni'r cwrs. Mae'n feichus iawn, ond hefyd yn hynod werth chweil.”
Y grŵp cyntaf o weithwyr cymorth gofal iechyd yn graddio
Cyfle arloesol i weithwyr cymorth gofal iechyd
Croesawodd Ade Evans, Pennaeth Addysg a Datblygu yn BIPBC lwyddiant y myfyrwyr gan ddweud:
“Mae'n hyfryd gweld llwyddiant ein carfan gyntaf o fyfyrwyr Baglor Nyrsio rhan amser. Diolch yn fawr i'r meysydd clinigol a'r rheolwyr yn BIPBC sydd wedi cefnogi'r myfyrwyr trwy gydol y rhaglen hon. Rwy'n dymuno'n dda i'r holl fyfyrwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."
Dywedodd Paul Flanagan, Rheolwr Maes Rhaglen Iechyd a Gofal yng Ngholeg Llandrillo hefyd:
"Rydym yn falch iawn o gydnabod llwyddiant a chyflawniadau parhaus ein myfyrwyr. Mae'r llwyddiant hwn hyd yn oed yn fwy rhyfeddol o ystyried effaith enfawr Covid yn ystod astudiaethau'r rheng flaen hon. Da iawn i bawb a diolch i holl staff Prifysgol Bangor a BIPBC am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Rydym yn wirioneddol falch o'r gwelliannau ansawdd a'r datblygiadau gweithlu y mae'r bartneriaeth strategol hon yn eu cyflawni i'n bwrdd iechyd lleol."
Mae'r cyfle arloesol hwn i weithwyr cymorth gofal iechyd yng Ngogledd Cymru yn adlewyrchu'r bartneriaeth waith strategol agos a chadarn rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Llandrillo a BIPBC a fydd o fudd i'r gymuned leol trwy ddarparu llwybr gyrfa arall i'r rheini sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn nyrsio, gan gefnogi darpariaeth gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae'r myfyrwyr hyn i gyd yn fodelau rôl eithriadol, gan ddangos y gellir cyflawni llwyddiant hyd yn oed yn ystod amseroedd digynsail, sy'n wir ysbrydoliaeth i'r rhai fydd yn dilyn eu llwybr.