Arweiniodd gwaith archwilio gwely’r môr gan long ymchwil y Brifysgol, Y Prince Madog, at ddarganfyddiad y llong danfor, U87 a ddrylliwyd ar Ddiwrnod Nadolig 1917.
Roedd y gwaith gan Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i fapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon. Noddwyd y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.
Mae rhaglen nos Lun yn archwilio tri llongddrylliad U-Boat Almaeneg o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd gyda’r archeolegydd morwrol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth.
Yn stori U87, mae Innes a Dr Mike Roberts o Ysgol Gwyddorau Eigion Pifysgol Bangor yn canfod lleoliad y llong ym Môr Iwerddon, oddi ar fwrdd llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog, gan egluro sut y cafodd ei suddo ar ôl i long ryfel y Cynghreiriaid ymosod arni.
Hefyd yn y rhaglen, mae Innes yn plymio i weld U480 o'r Ail Ryfel Byd, yn unig un y mae wedi dod o hyd sydd wedi'i orchuddio â gorchudd rwber dirgel. Ai dyma un o'r ymdrechion cyntaf i ddefnyddio technoleg lechwraidd ac os felly pam mae'r llong danfor wedi ei suddo ar waelod y Sianel? Mae'r rhaglen hefyd yn lleoli UC66 oddi ar Ynysoedd Scilly. Hwn oedd y llong danfor gyntaf i gael ei suddo o'r awyr.
Mae'r rhaglen yn rhan o gyfres ddeg rhan, ac yn gydgynhyrchiad rhwng National Geographic Channel, More 4, Welt 24 (yr Almaen) a Discovery Science yn yr UD. Wedi’r dangosiad ddydd Llun, bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledi ar sianeli eraill ac yn cael ei gwylio ledled y byd.
Bu tîm o staff Ysgol Gwyddorau’r Eigion, dan arweinyddiaeth Dr Mike Roberts, yn defnyddio system sonar hynod sensitif a’r technegau delweddu diweddaraf i ganfod llongddrylliadau llongau tanfor yr Almaen o gyfnod y Rhyfel Mawr.
Mae systemau sonar y Prince Madog yn creu modelau tri dimensiwn eglur iawn o wely’r môr wrth i’r llong symud drwy’r dŵr. Mae’r modelau hyn yn galluogi ymchwilwyr i weld gwrthrychau’n fanwl iawn. Gan weithio ar ddyfnder o 100 metr, sy’n arferol ym Môr Iwerddon, mae’r ymchwilwyr wedi creu modelau a delweddau o longddrylliadau er mwyn cynorthwyo archeolegwyr môr i adnabod y llongau tanfor a dysgu sut y cawsant eu suddo.
Esbonia Dr Mike Roberts pam fod yr wybodaeth mor werthfawr:
“Tra bod creiriau’r rhyfel yn darparu gwybodaeth werthfawr i haneswyr ac archeolegwyr gallant hefyd arwain at ddatblygu diwydiant newydd. Mae’r data’r ydym yn ei gasglu’n rhoi gwybodaeth unigryw i ni am ddylanwad y llongddrylliadau ar brosesau ffisegol a biolegol yn yr amgylchedd morol. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i gefnogi uchelgais y sector ynni môr adnewyddadwy.”
“Mae’r delweddau o’r llongddrylliadau’n datgelu sut mae’r llanw a’r cerhyntau wedi symud neu adael gwaddod ar eu holau a sut mae presenoldeb y llongddrylliadau ar wely’r môr wedi dylanwadu ar y prosesau hynny dros amser, a’r hyn all ddigwydd pan fo strwythurau artiffisial yn cael eu gosod yn yr un man neu mewn mannau tebyg ar wely’r môr.”
Dywedodd Crispin Sadler o Mallinson Sadler Productions, a gynhyrchodd y rhaglen:
“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â chriw’r Prince Madog a thîm Prifysgol Bangor dan arweiniad Dr Michael Roberts. Mae’r cyfuniad gydag arbenigedd hanesyddol ac archeolegol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth yn cynnig cynhwysion ar gyfer ffilm hynod ddiddorol.