Addysg Athrawon CaBan ym Mhrifysgol Bangor yn Ennill Achrediad 5 Mlynedd Cenedlaethol Arbennig Iawn
Mae rhaglenni addysg athrawon israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Bangor wedi derbyn achrediad am y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r cymwysterau athrawon israddedig ac ôl-raddedig, a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Addysg Athrawon CaBan Bangor yn yr Ysgol y Gwyddorau Addysg wedi derbyn achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg, y corff sy'n gyfrifol am achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru. Mae partneriaid CaBan yn cynnwys rhwydwaith o ysgolion partneriaeth ledled gogledd Cymru, GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Gogledd Cymru) a Sefydliad Ymchwil Addysg a Phlentyndod CIEREI.
Mae'r rhaglenni newydd hyn yn cynnwys y cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig presennol a llwybr traws-gyfnod newydd cyffrous i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cryfhau enw da CaBan ymhellach fel arweinydd cyflwyno addysg athrawon cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Julia Buckley, Pennaeth Ysgol Glan Gele, Abergele: “Fel ysgol arweiniol CaBan, rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad achredu. Rydym yn falch o fod yn rhan o'r bartneriaeth hon. Mae ein rhaglenni addysg athrawon diwygiedig yn llawer mwy cadarn ac mae'r myfyrwyr yn elwa o'r profiadau ymarferol cyfoethog y maent yn eu cael wrth weithio gyda’n disgyblion."
Dywedodd Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol CaBan Bangor, "Rwy'n hynod falch o'n holl staff ac ysgolion partneriaeth sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod cyfnod digynsail yn hanes addysg yng Nghymru i gyflawni'r achrediad hwn. Bydd y gwydnwch a'r arloesedd a ddangoswyd gan yr holl bartneriaid ac Athrawon Cyswllt i fynd drwy'r pan demig yn llwyddiannus yn ein rhoi ni i gyd mewn sefyllfa dda i wynebu unrhyw heriau sy'n dod i'n ffordd yn y dyfodol. Mae'r achrediad mawreddog hwn yn cydnabod y ffaith honno."
Dywedodd Yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Addysg ym Mhrifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o dderbyn yr achrediad mawreddog yma sy'n cydnabod ansawdd ein rhaglenni addysg athrawon ym Mangor, a phwysigrwydd CaBan Bangor wrth addysgu athrawon dwyieithog y dyfodol, i'n rhanbarth, i'n gwlad ac i'n hieithoedd. Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb, ac mae partneriaeth CaBan wedi dangos y cryfder mewn gwir gydweithredu. Rydym yn hynod falch o bawb a fu’n ymwneud â hyn."