Coffáu ymgyrchwraig gynnar
Dadorchuddio plac yn 50 Ffordd Garth Uchaf, Bangor
Caiff Charlotte Price White, Swffragét gynnar, neu ymgyrchwraig ddi-drais dros Bleidleisiau i Ferched, ac Ymgyrchydd Heddwch, ei choffáu â Phlac Porffor ym Mangor heddiw (16 Gorffennaf 2021).
Mae’r Placiau Porffor yn rhoi sylw i gyflawniadau merched trwy roi cydnabyddiaeth i ferched rhyfeddol yng Nghymru. Maent yn ceisio unioni'r nifer isel o ferched a gafodd eu coffáu ar blaciau Glas. Mae tua 250 o'r rhain yng Nghymru, a nifer fach ohonynt sy’n coffáu cyflawniadau merched.
Roedd Charlotte Price White yn un o’r merched cyntaf i astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor, a bu’n arloesol mewn nifer o feysydd. Hi oedd Ysgrifennydd cangen Gogledd Cymru o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau dros Bleidleisiau i Ferched (NWUSS) ac roedd yn un o ddim ond dwy fenyw o’r gogledd a gerddodd i Lundain fel rhan o 'Bererindod Fawr' aelodau’r NWUSS o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i Lundain.
Dadrchuddio Plac Porffor
Bu’r hanesydd Annie Williams yn rhoi darlith ar y cyd â Neil Evans am fywyd Charlotte Price White fel rhan o'r digwyddiad a’r dathlu.
Dywedodd:
“Gwnaeth Mrs Charlotte Price White gyfraniad mawr at hanes merched Cymru trwy ei gwaith ymgyrchu dros bleidleisiau i ferched, y mudiad heddwch ac mewn bywyd cyhoeddus fel y ferch gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Caernarfon ym 1926.”
Ychwanegodd Neil Evans:
“Mae llawer i’w ddysgu o hyd am fywyd Charlotte. Ond gwyddom iddi ymroi i hawliau merched, i heddwch byd-eang ac i hyrwyddo addysg a lles plant. Roedd hi'n ymroddedig i'w theulu ac i'w chymuned."
Roedd Mrs Charlotte Price White hefyd yn ffigwr canolog yng nghangen Gogledd Cymru o Gynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid (WILPF) a chwaraeodd ran amlwg yn y Bererindod Heddwch Fawr ym 1926. Teithiodd y Bererindod ar hyd saith llwybr gwahanol i gyrraedd Llundain, lle cynhaliwyd pasiant mawr yn Hyde Park.
Charlotte Price White oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Caernarfon a bu’n gwasanaethu o 1925 hyd at ei marwolaeth annhymig ym 1932. Roedd hi hefyd ymhlith aelodau cyntaf Sefydliad y Merched. Fe’i sefydlwyd yn Llanfairpwll ym 1915, a’r bwriad oedd rhoi llais a rôl i ferched yn eu broydd.
Gwelwn hyd a lled ei phroffil cyhoeddus yn y gymdeithas pan fu’n rhaid rhoi heibio dymuniad ei theulu am gynhebrwng preifat bach yn sgil ei marwolaeth annhymig ym 1932, cymaint oedd y gwewyr a’r sioc gyhoeddus o golli ffigwr mor adnabyddus.
Dadorchuddiwyd y Plac Porffor yn 50 Ffordd Garth Uchaf, hen gartref Charlotte Price White a'i theulu. Cafodd ŵyr Charlotte, Christopher Price White yr anrhydedd o ddadorchuddio’r plac.
Dywedodd Sue Essex, Cadeirydd Pwyllgor y Placiau Porffor:
“Sefydliad gwirfoddol bach yw Purple Plaques. Mae’n ymroddedig i gofio a dathlu merched hynod a fu’n byw yng Nghymru
Hyd yma mae gennym bum plac mewn gwahanol rannau o Gymru a byddwn yn ychwanegu tri arall yr haf yma gan gynnwys plac Charlotte Price White ym Mangor. Ein nod yw y bydd placiau porffor i ferched o bob cefndir ledled y wlad
Mae cymaint o ferched â straeon ysbrydoledig sy'n haeddu cael eu cofio yng Nghymru'
Mae Placiau Porffor yn hapus i weithio gydag unrhyw un ac unrhyw grŵp sydd ‘am ddathlu merch hynod'.
Ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor:
“Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn gweld cydnabod bywyd Charlotte Price gyda Phlac Porffor. Roedd Charlotte yn gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol. Roedd yn ffigwr ysbrydoledig ac mae’n dal i fod felly. Gwnaeth gyfraniad aruthrol nid yn unig i'r mudiad dros bleidleisiau i ferched, ond i amrywiol achosion cymdeithasol a gwleidyddol blaengar eraill. Torrodd dir newydd yng ngwir ystyr y gair. Trwy ei gweledigaeth, ei dewrder a'i harddeliad cadarn, braenarodd y tir i genedlaethau olynol o ferched chwarae rhan amlwg mewn bywyd gwleidyddol.”
Dywedodd Sian Rhiannon Williams, Hanesydd ac aelod o bwyllgor y Placiau Porffor a phwyllgor Archif Merched Cymru:
“Mae Placiau Porffor Cymru’n falch iawn o ddathlu cyfraniad rhyfeddol Charlotte fel arloeswraig dros ferched mewn gwleidyddiaeth ac i godi’r plac er anrhydedd iddi er mwyn cydnabod ei gwaith dros hawliau merched, y mudiad heddwch a’r gymuned leol yn lleol a ledled Cymru.”
Digwyddiad ar y cyd ydyw hwn rhwng y Placiau Porffor, Archif Merched Cymru a Phrifysgol Bangor. Ar ôl y dadorchuddio bu Dathliad a oedd yn cynnwys anerchiadau yn Neuadd Prichard Jones Prifysgol Bangor. Cafodd y dathliad ei gynnal yn unol â phrotocolau Covid.