Gwnaed y darganfyddiad fel rhan o broject ar y cyd rhwng Archeolegwyr Morwrol ym Mhrifysgol Bournemouth a gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, sydd wedi bod yn cyfuno archifau morol â data sonar amlbelydr cydraniad uchel i geisio adnabod nifer o'r safleoedd llongddrylliadau anhysbys sydd wedi'u lleoli oddi ar ein harfordir.
Cafodd HMS Mercury, a adeiladwyd yn wreiddiol fel fferi ar yr afon Clud, ei meddu’n orfodol gan y Morlys ym 1939 i wasanaethu fel llong glirio ffrwydrynnau. Suddodd ym 1940 ar ôl cael ei difrodi gan ffrwydryn yr oedd yn ceisio ei glirio ac adroddwyd ei fod ar goll oddi ar De Iwerddon.
HMS Mercury
Project ymchwil hynod arloesol
Fel rhan o'r rhaglen ymchwil barhaus, mae Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth wedi bod yn llunio rhestrau manwl o'r holl longau a gollwyd ym Môr Iwerddon:
“Tybiwyd mai safle’r llongddrylliad oedd y fan lle orweddai llong danfor. Ar ôl i'r data sonar gael ei brosesu, roedd y llongddrylliad yn debyg i long olwyn badl gyda'i phadlau mewn bocsys yn uwch-strwythur y llong, yn hytrach na'r proffil tiwb nodweddiadol sy'n gysylltiedig â llongddrylliad llongau tanfor. Yn ein cronfa ddata o longau a gollwyd, roedd dim ond un dewis posibl gydag olwynion padl mewn bocsys; sef y llong glirio ffrwydrynnau, HMS Mercury”
Adeiladwyd y llong, a enwyd yn wreiddiol yn Mercury II, ym 1934 ar gyfer y London Midland Scottish Railway ac roedd yn llong bleser yn cario teithwyr gan weithio’n bennaf ar y llwybr Greenock, Gourock a Bae Wemyss. Roedd y llong yn rhodlong 223 troedfedd o hyd ac yn hawdd ei hadnabod trwy ei dyluniad arloesol gyda’r padlau mewn bocsys a starn criwser. Ynghyd â’i chwaer long Caledonia II, rhoddodd wasanaeth da hyd at 1939, pan gafodd ei meddu’n orfodol i wasanaethu yn y rhyfel fel llong glirio ffrwydrynnau.
Mae'r rhestr swyddogol o longau morwrol a gollwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn nodi bod HMS Mercury wedi “suddo ar ôl cael ei difrodi gan ffrwydryn i’r de o Iwerddon”. Mewn gwirionedd, dangosodd yr ymchwil yn yr Archifau Cenedlaethol fod y digwyddiad wedi digwydd i ddechrau oddi ar Ynysoedd Saltee, De Iwerddon pan roedd HMS Mercury yn clirio hen faes ffrwydron Prydeinig am 4.30 y prynhawn ar Ddydd Nadolig 1940. I ddechrau ac yn ddiarwybod i’r Mercury, daliwyd ffrwydryn yn ei gêr clirio ac wrth geisio cael gwared ohono, tynnwyd y ffrwydryn yn rhy agos at y llong a ffrwydrodd o dan y starn. Roedd yn dal uwchlaw’r dŵr a gobeithiwyd y gellid achub y llong, felly tynnwyd HMS Mercury tuag at Aberdaugleddau ond yn anffodus ar ôl tua dwy awr, daeth y cebl yn rhydd dan bwysau’r llong a oedd yn llenwi’n araf gyda dŵr. Er gwaethaf ymdrechion caled y criw i'w hachub, suddodd y llong yn fertigol, y starn yn gyntaf tua 8.30 y nos, ond llwyddwyd i achub y criw cyfan.
Cafodd yr Is-gapten dros dro, Bertrand Palmer a oedd yn rheoli HMS Mercury, ei geryddu yn ddiweddarach ar ôl llys marsial a ganfu ei fod wedi ymddwyn yn groes i reolau sefydlog wrth stopio’r llong a pheidio â symud oddi yno ar unwaith ar ôl gweld y ffrwydryn.
Bu chwaer long y Mercury, Caledonia II, yn gwasanaethu trwy gydol yr Ail Ryfel Byd fel HMS Goatfell, ac wedi hynny dychwelodd i’w gwaith arferol. Pan werthwyd Caledonia II ym 1971, cafodd ei phrynu gan y Bass Charrington Group a’i defnyddio fel tafarn boblogaidd yn arnofio ar yr afon Tafwys cyn mynd ar dân ym 1980.
Mae HMS Mercury yn ddim ond un o dros 300 o longddrylliadau ym Môr Iwerddon sydd wedi eu harolygu gan long ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, trwy ddefnyddio eu system sonar amlbelydr o’r radd flaenaf. Trwy’r cydweithio unigryw hyn gyda Phrifysgol Bournemouth, mae adnabod pob safle a’u cysylltu â digwyddiad hanesyddol penodol yn parhau i ddatblygu a chaiff y wybodaeth ei chyhoeddi ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau fel cymrodoriaeth Dr McCartney a ariannir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme “Echoes from the Deep: Modern Reflections on our Maritime Past”.
Dr Innes McCartney:
''Mae'r project ymchwil hynod arloesol hwn wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau newydd yn dyddio o'r ddau ryfel byd, ac mae HMS Mercury yn ddim ond un enghraifft ohonynt. Mae'r cydweithio newydd hyn â Phrifysgol Bangor yn dangos y manteision sylweddol y gellir eu cael trwy gyfuno arolwg gwyddonol ag archifau morwrol ac mae'n dangos sut y gellir defnyddio hyn fel dull ymchwil pwerus ac effeithiol a all wella’n sylweddol ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morwrol hanesyddol trwy ein galluogi i adnabod llongddrylliadau anhysbys, mireinio priodoleddau presennol a chadarnhau enwau llongau.”
Dr Michael Roberts o Brifysgol Bangor a arweiniodd yr arolygon amlbelydr:
“Mae gallu bod ar ein llong ymchwil Prince Madog a defnyddio un o'r systemau sonar amlbelydr mwyaf datblygedig sydd ar gael wedi ein galluogi i arolygu bron pob safle llongddrylliad yng nghanol Môr Iwerddon yn effeithlon ac yn gywir. Mae cael data sonar cydraniad uchel o'r holl safleoedd hyn wedi bod yn hanfodol i'r broses ymchwil a gobeithiwn y bydd y gwaith a'r cydweithredu hyn â Bournemouth yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod yr asedau gwerthfawr hyn ar gael i ni yma ym Mangor. Mae'r llongau hyn sydd wedi suddo yn cynrychioli aberthau ac ymdrechion dinasyddion a oedd yn weithwyr 'allweddol' a 'hanfodol' yn eu cyfnod ac mae'n bwysig bod man gorffwys olaf y llongau yr oeddent yn gysylltiedig â hwy yn cael eu nodi cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Rydym yn gobeithio sicrhau cyllid ychwanegol i ehangu ar y gwaith hwn ac archwilio llongddrylliadau mewn rhanbarthau arfordirol eraill yn y DU cyn i'w gweddillion fynd yn amhosib i’w hadnabod trwy ddiraddiad gan brosesau naturiol y môr.”