Pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn derbyn medalau mawreddog Cwmni’r Brethynwyr
Cyflwynwyd medalau mawreddog Cwmni’r Brethynwyr i bedwar myfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Bangor yn ddiweddar.
Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae’r gwobrau pwysig hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth y myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Roedd yn rhaid canslo digwyddiad i gyflwyno medalau'r llynedd, felly cyflwynwyd medalau 2020 a 2021 yn ddiweddar mewn digwyddiad dan arweiniad yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes.
Mae dyfarnu medalau mawreddog efydd ac arian Cwmni’r Brethynwyr yn cydnabod cyfraniad eithriadol ein myfyrwyr ymchwil, nid yn unig drwy ledaenu eu gwaith, ond hefyd i’r amgylchedd addysgu ac ymchwil eu hysgolion a'u colegau perthnasol. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cyfle o'r diwedd i gyflwyno’r gwobrau haeddiannol i dderbynwyr medalau 2020 a 2021. Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu cynrychiolwyr Cwmni'r Brethynwyr i Fangor ar gyfer eu hymweliad blynyddol yn 2022.
Enillwyr medalau Cwmni'r Brethynwyr 2020 & 2021
Dyfarnwyd medal arian 2020 i ymgeisydd PhD Gwyddorau Biolegol, William Bernard Perry a dyfarnwyd medal efydd 2020 i ymgeisydd PhD Seicoleg, Leanne Rowlands.
Dyfarnwyd medal arian 2021 i ymgeisydd PhD Gwyddorau Iechyd Emma McLorie, a dyfarnwyd medal efydd 2021 i ymgeisydd PhD Archaeoleg, Nebu George.
Mae'r cwmni wedi bod yn gysylltiedig â’r Brifysgol ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a'r adran peirianneg electronig.