Gwella’r modd mae sepsis yn cael ei adnabod a’i drin yn yr ysbyty
Gall adnabod a thrin sepsis yn gynnar, adwaith i haint sy'n peryglu bywyd, arbed bywydau.
Edrychodd ymchwil newydd gan Eirian Edwards a Lorelei Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor ar wybodaeth, sgiliau ac agweddau nyrsys ward yng nghyswllt sepsis ac a all hyfforddiant sepsis i nyrsys ward wella gofal.
Er bod astudiaethau blaenorol gan adrannau achosion brys ac argyfyngau ac unedau gofal dwys, hon oedd un o'r astudiaethau cyntaf i ymchwilio i adnabod a thrin sepsis mewn cleifion ar wardiau meddygol a llawfeddygol cyffredinol, ac i asesu effeithiau hyfforddiant.
Cwblhawyd holiadur gan 98 o nyrsys o 16 ward (39% o nyrsys ar y wardiau) ar draws ysbyty addysgu acíwt yng Nghymru. Canfu’r astudiaeth fod nyrsys a oedd wedi derbyn hyfforddiant sepsis yn llawer iawn mwy tebygol o wybod y meini prawf sgrinio ar gyfer sepsis, o fod ag agwedd gadarnhaol at sgrinio a rheoli sepsis, ac yn fwy hyderus wrth sgrinio am sepsis ac yn fwy tebygol o fod wedi sgrinio claf am sepsis.
Y rhwystr a adroddwyd amlaf i adnabod a thrin sepsis yn amserol ar y wardiau oedd llwyth gwaith a staffio annigonol. Mynegodd rhai nyrsys bryderon ynghylch staff dibrofiad neu anghyfarwydd ar y wardiau, megis cynorthwywyr gofal iechyd a staff asiantaeth, pan na chafodd arsylwadau annormal eu cyfeirio ymlaen yn briodol. Adroddwyd bod hyfforddiant sepsis, offer sepsis (megis meini prawf sgrinio, bwndel sepsis a chyfarwyddeb grŵp cleifion) a chefnogaeth i gydweithwyr i gyd yn helpu i adnabod a thrin sepsis yn amserol. Mae'r awduron yn argymell hyfforddiant sepsis ar gyfer pob nyrs.
Yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Lorelei Jones, Darlithydd mewn Sefydliad Gofal Iechyd a Llywodraethu yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd:
“Un o’r pethau a oedd yn ddiddorol yn fy marn i oedd pwysigrwydd cefnogaeth gan gydweithwyr wrth ddefnyddio sgiliau clinigol. Mae hyn yn awgrymu pan fydd gor-ddefnyddio staff dros dro ac asiantaeth yn erydu'r gefnogaeth sydd ar gael i nyrsys gan gydweithwyr, mae hyn yn effeithio ar adnabod a thrin cleifion sy'n dirywio. Mae'r astudiaeth hefyd yn codi cwestiynau ynghylch mynediad at hyfforddiant sepsis i staff asiantaeth.”
Cyhoeddir yr ymchwil yn y British Journal of Nursing