Mae dau sefydliad addysg blaenllaw wedi ymuno i dargedu adferiad a thwf yn y sectorau y mae pandemig y Coronafeirws wedi eu taro’n galed
Bydd Coleg Cambria a Phrifysgol Bangor yn gweithio’n agos i ddatblygu llwybrau strategol newydd a chefnogi cyflogwyr wrth iddynt ail-adeiladu yn dilyn cyfnod heriol i bob diwydiant.
Gwnaeth Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria ac Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, gyhoeddi’r bartneriaeth yn ystod agoriad ffurfiol adeilad Hafod ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam. Gwnaeth Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ymuno â’r digwyddiad.
Cafodd y datblygiad sydd werth £21 miliwn ei gwblhau yn gynharach yn y flwyddyn, gan Wynne Construction sydd wedi’i leoli ym Modelwyddan. Cafodd y datblygiad ei gefnogi gan Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Roeddwn yn falch iawn o agor adeilad newydd Hafod yng Ngholeg Cambria.
Mae'n gyfleuster trawiadol iawn, a fydd yn wych i'r myfyrwyr a'r staff. Rwy'n falch iawn y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi hyn trwy ein rhaglen Ysgol a Cholegau'r 21ain Ganrif."
Diolch i'r Coleg am y croeso a'r dymuniadau gorau i bawb a fydd yn dysgu ac yn gweithio yn Hafod.
Ymhlith y prosiectau cydweithredol a gynigwyd gan Cambria a Bangor mae ‘Ffatri Sgiliau’ yng Nglannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth cyllid cychwynnol gan Gronfa Adfer a Buddsoddi mewn Addysg Uwch gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gyda'i gilydd byddant yn pontio’r bwlch rhwng addysg uwch ac addysg bellach ac yn ymgysylltu â sawl maes ar gyfer ymchwil, arloesi ac ymgysylltu busnes.
Dywedodd Ms Williams eu bod yn cynllunio i greu perthynas fwy cadarn ar gyfer dysgwyr a chymunedau ledled y Gogledd a helpu ailsgilio ac uwchsgilio mewn meysydd blaenoriaeth.
“Bydd y cydweithrediad yn targedu’r rhai a gafodd eu heffeithio fwyaf gan Covid-19 ac yn adnabod sut y gallwn ni gydweithio i gyflwyno datrysiadau trwy hyfforddiant, partneriaethau diwydiant a chyflogwyr,” meddai Ms Williams.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ddysgwyr ledled y Gogledd fynediad at gymwysterau addysg bellach ac uwch ystwyth a pherthnasol, ac i wneud y gorau o’r cyfleusterau diweddaraf sydd gennym ni yn y rhanbarth yma.
“Rydyn ni mewn amgylchedd economaidd heriol ar hyn o bryd ac mae Coleg Cambria a Phrifysgol Bangor yn benderfynol o fod ar flaen yr adferiad ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’n cymunedau.”
Dywedodd hefyd: “Dim ond un enghraifft o sut fyddwn ni’n cysylltu gyda diwydiant ydi’r Ffatri Sgiliau, byddwn ni’n ymdrin â’r heriau sy’n wynebu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg a’r angen am weithlu sydd â sgiliau o safon uchel, sy’n cael ei dalu’n dda ac sy’n gynhwysol.
“Byddwn ni hefyd yn blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol, awyrennau, adeiladu ac yn cefnogi twf posib mewn sectorau fel gweithgynhyrchu bwyd a diod, peirianneg meddalwedd, gwyddoniaeth data, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy a gweithgynhyrchu uwch a niwclear.
“Wrth i ni geisio dod dros effaith y pandemig, rydyn ni eisiau sbarduno ac ailsgilio er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd yr athro Iwan Davies wrth ymrwymo i’r bartneriaeth mae Prifysgol Bangor yn ailddatgan ei addewid i gyflwyno darpariaeth ar draws y Gogledd cyfan, gan adeiladu llwybrau rhwng sectorau addysg bellach ac uwch a chefnogi’r gweithwyr a’r cyflogwyr wrth iddyn nhw wynebu amgylchedd economaidd anodd.
“Mae ein hagwedd ni’n croesawu amrywiaeth y -rhanbarth ac yn cyflwyno datrysiadau a fydd yn mynd ar draws sectorau, yn enwedig awyrennau ac adeiladu, gan eu bod nhw’n gobeithio goresgyn effeithiau’r pandemig. Rydyn ni hefyd yn cefnogi twf posib sectorau fel gweithgynhyrchu bwyd a diod, peirianneg meddalwedd, gwyddoniaeth data, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy, a gweithgynhyrchu uwch a niwclear,” meddai.
“Bydd y Ffatri Sgiliau yn canolbwyntio ar fodelau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno, gan gynnwys y Pum Ffordd o Weithio sydd wedi’u gosod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a bydd yn dwyn enw da’r ddau sefydliad mewn cynaliadwyedd a chyflwyno cynaliadwy.”
Gwnaeth aelodau o dîm arwain y coleg, Chris Wynne sef Cyfarwyddwr Rheoli Wynne Construction, a’r Gweinidog ymuno â Ms Williams a’r Athro Iwan Davies yn adeilad chwyldroadol Hafod - sy’n ‘bentref masnachol’ sydd wedi’i arwain gan addysg, lletygarwch a manwerthu.
Mae Mr Wynne yn “falch iawn” o’r tîm am greu’r adeilad mawreddog, ychwanegodd: “Mae’r tîm wedi gweithio drwy’r heriau a ddaeth yn sgil COVID-19 wrth weithio ar safle byw yn ogystal â rhannu’r safle gyda myfyrwyr a staff. Ein prif flaenoriaeth oedd sicrhau iechyd a llesiant pawb a oedd yn ymwneud â’r prosiect ac i gynhyrchu gorffeniad o safon uchel, ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny.
“Er gwaethaf Covid-19, rydyn ni wedi cyflawni gwariant o 63% tuag at Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, chwe lleoliad profiad gwaith, 360 o wythnosau hyfforddi i brentisiaethau, ac wedi rhyngweithio gyda dros 2,000 o ddisgyblion yn ystod y cyfnod adeiladu.
“Yn ogystal â hynny, rydyn ni’n falch o weithio yn Wrecsam eto a pharhau i greu etifeddiaeth a dyfodol i’r diwydiant adeiladu.”