Bydd Prifysgol Bangor yn dathlu 100 Mlynedd o Gerddoriaeth trwy gyfres o ddanteithion cerddorol sy’n arddangos yr ystod eang o gerddoriaeth sydd wedi ei chlywed yn y Brifysgol dros ganrif. Bydd y dathliadau yn cynnwys cyngherddau, perfformiadau a dosbarthiadau meistr ac yn talu teyrnged i’r traddodiad hir o greu cerddoriaeth ym Mangor.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal nid yn unig yn adeiladau’r Brifysgol, megis Neuadd Prichard-Jones, Neuadd Powis a Pontio, ond trwy gydol dinas Bangor mewn lleoliadau megis Storiel a’r Gadeirlan.
Bydd y rhaglen yn cynnwys perfformiadau gan ensemblau cerddorol proffesiynol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru, fydd ill dau yn perfformio gwaith gyda chysylltiad â Bangor yn eu perfformiadau.
Bydd hefyd cyfle i arddangos talent o Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformiad Prifysgol Bangor, gan gynnwys cyngherddau gan Gerddorfa Symffoni'r Brifysgol a Chorws y Brifysgol, gyda cherddoriaeth wedi ei chyfansoddi rhwng 1921-22 yn y rhaglen. Bydd ensemblau cerddorol amrywiol y Brifysgol, o jazz, chwythbrennau a phres i grwpiau lleisiol, yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Fangor yn eu perfformiadau, ac hefyd yn rhan o ddathliadau graddio’r flwyddyn nesaf. Hefyd yn rhan o’r rhaglen gyflawn fydd Undeb y Myfyrwyr, ac UMCB, fydd yn trefnu gwahanol ddigwyddiadau cerddorol i gynnwys bandiau poblogaidd Cymraeg.
Bydd ymarferwyr ifanc o National Theatre Wales, y Royal Shakespeare Company, o’r West End, Theatr Sherman, Coleg y Drindod a’r Orchestra National de Bretagne yn cynnig dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr Bangor ac yn cynnig cyfleoedd i ysgolion lleol mewn partneriaeth â Chyfarwyddwr Perfformio’r Ysgol Cerddoriaeth, Iwan Llewelyn Jones.
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yn ymarfer yn Neuadd Prichard-Jones
Erbyn hyn, mae hi’n gan mlynedd ers i ET Davies gael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cerdd llawn amser cyntaf Prifysgol Bangor. Mi roedd yn rhan fawr o gysylltu’r Brifysgol â’r gymuned ehangach trwy gerddoriaeth. Rydym wir yn gweld dathliadau Cerddoriaeth Cant fel estyniad o hynny, ac yn gyfle i bobl i ail-gysylltu yn y cnawd, wedi’r pandemig.
Mae’r Athro Andrew Lewis, Pennaeth yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformiad ym Mhrifysgol Bangor a chyfansoddwr ei hun, wedi ei gomisiynu gan y BBC a Thŷ Cerdd i ysgrifennu darn newydd o gerddoriaeth ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bydd y darn yn cynnwys recordiadau o bobl o Ynys Môn a Llanelwy yn siarad am eu rôl yn gofalu am aelodau o’r teulu gyda dementia, ac yn trafod eu profiadau, teimladau, heriau a myfyrdodau am y dyfodol. Bydd y sgyrsiau hyn wedyn yn cael eu trawsnewid yn electroneg ac yn cael eu plethu i wead tirlun sain electroacwstig unigryw fydd yn cael ei chwarae am y tro cyntaf fel rhan o gyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Pontio ym Mawrth 2022.
Dyma gyfle i ddathlu hanes amrywiol a chyfoethog cerddoriaeth ym Mangor, gan edrych yn ôl dros ganrif o atgofion cerddorol, ac wedyn ymlaen i’r can mlynedd nesaf, gyda rhai datblygiadau cyffrous ar y gorwel.
“Mae cymuned wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud, ac mae hon yn ddathliad nid i’r Adran Gerddoriaeth, Drama a Pherfformio’n unig ond i’r Brifysgol drwyddi draw, i bobl Bangor, Gogledd Cymru a thu hwnt. Gadewch i mi gynnig gwahoddiad gwresog i chi ymuno â ni wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant gyda chalendr prysur o ddigwyddiadau, sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Mae gwefan arbennig sy’n cynnwys siwrne trwy ganrif o ragoriaeth gerddorol wedi ei chreu fel rhan o’r dathliadau - am ragor o wybodaeth ac am fanylion y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu hyd yn hyn, ewch i https://www.bangor.ac.uk/music100.
Mae’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn cynnwys perfformiad Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yn Neuadd Prichard-Jones ar Nos Wener, 29 Hydref am 7.30pm. Tocynnau ar wefan Pontio http://www.pontio.co.uk.