Bangor yn croesawu Scribblers Cymraeg Gŵyl Hay unwaith eto
Bydd y beirdd Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Osian Owen ac Aneirin Karadog yn ymuno â disgyblion ysgol blynyddoedd 6 a 7 ar gyfer gweithdai creadigol ym Mhrifysgol Bangor ar 3 Tachwedd.
Bydd y creadigrwydd yn rhan o Daith Scribblers Cymraeg Hay Festival.
Dros y 18 mis diwethaf, mae digwyddiadau addysg Hay Festival wedi cael eu rhedeg yn ddigidol, ac wedi cyrraedd 100k o ddisgyblion mewn mwy na mil o ysgolion ar draws y DU a thu hwnt. Maen nhw wedi cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Hay Festival Foundation.
Dywedodd Aine Venables, Rheolwr Addysg Hay Festival:
"Rydym yn ôl ar gyfer ein digwyddiadau cyntaf i ysgolion mewn person ers 2019, ac rydym yn falch o groesawu disgyblion ac athrawon yn ôl i'n digwyddiadau. Mewn blwyddyn o heriau enfawr i bobl ifanc ac addysgwyr ar draws y DU, rydym wedi bod yn falch o gysylltu â miloedd yn ddigidol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gysylltu gyda’r un sbardun o ysbrydoliaeth eto mewn digwyddiadau byw."
Meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr o’r DU:
“Bydd yn hyfryd cael gweld disgyblion ifanc yn ymweld â’r Brifysgol unwaith eto a chael blas ar ysgrifennu creadigol yn nwylo’r beirdd Cymraeg. Rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau eu hymweliad.”
![Bydd y bardd Gruffud Owen ym Mhrifysgol Bangor](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-10/Grufudd%20Owen.jpeg?h=4de69ae3&itok=iec0NoZ7)
![Y bardd Rufus Mufasa, merch ifanc, yn gwenu](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-10/Rufus%20Mufasa%20%C2%A9hayfestival.jpg?h=4de69ae3&itok=zaiHZ8iT)
![Osian Owen and Bangor University logo](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-10/Osian%20Wyn%20Owen%20and%20Bangor.jpg?h=4de69ae3&itok=lgBol7aq)
Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni wedi gallu cefnogi Rhaglen Ysgolion Hay Festival unwaith eto, a rhoi mynediad i ddysgwyr ifanc at amrywiaeth o brofiadau creadigol a diwylliannol, yn ddigidol ac mewn person.
"Bydd dysgu diwylliannol a chreadigol yn rhan hanfodol o'n Cwricwlwm newydd i Gymru, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithio gyda Hay Festival i ddarparu cyfres gyfoethog o ddigwyddiadau i blant ar draws Cymru'r hydref hwn."