Mae Gareth Jones, a anwyd yn Llanelwy, ac sy'n cael ei adnabod gan wylwyr teledu fel Gaz Top, yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd rhaglenni teledu a rhaglenni gwyddoniaeth i blant megis How 2 a Get Fresh.
Gwthiodd Gareth ei hun i'r eithaf gan nofio mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr o'r de i’r gogledd mewn tair wythnos. Cafodd yr her ei gwneud yn gyfres deledu mewn tair rhan gan y cwmni teledu o Gaernarfon, Cwmni Da. Fel rhan o’r project hwn, cafodd tri ymchwilydd o'r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol gyfle i roi cyngor gwyddonol ffisiolegol a seicolegol iddo am nofio mewn dŵr oer.
Mae Alex Friend yn ymchwilydd PhD ar ei flwyddyn olaf yn astudio Ffisioleg Cerebrofasgiwlar ac Amgylcheddol. Mae Alex yn ymchwilio i sut mae'r corff yn ymateb i amgylcheddau eithafol gyda ffocws penodol ar lif y gwaed i'r ymennydd.
Eglurodd Alex: “Roedd fy ngwaith ar y project yn cynnwys cynnal arbrawf gwyddonol bach i amlygiad dŵr oer wrth fesur tymheredd craidd y corff a thymheredd croen Gareth. Roedd hyn yn rhoi cyfle iddo brofi'r symptomau a fyddai'n datblygu wrth i'w gorff oeri mewn dŵr oer.
“Fe wnaethon ni fesur tymereddau ei gorff a’i groen yn Llyn Padarn ar ddiwrnod cynnes iawn pan oedd tymheredd y dŵr oddeutu 22C. Yna fe wnaethon ni lenwi pwll padlo bychan gyda dŵr llyn oer a gostwng y tymheredd i tua 15C fel y gallai Gareth brofi’r symptomau y deuir ar eu traws mewn tymereddau oerach, megis y rhai y byddai'n dod ar eu traws yn ystod yr her.
“Fe wnaethon ni hefyd fesur nerth gwasgu ei ddwylo yn y ddau senario i ddangos sut mae oerfel yn effeithio ar allu ei gyhyrau. Rhoddodd yr arbrofion gyfle hefyd i Gareth ofyn cwestiynau am nofio mewn dŵr oer yn ddiogel.”
Mae Seren Evans, sydd hefyd yn ymchwilydd PhD ar ei blwyddyn olaf, yn astudio effaith risg anafiadau yn Rygbi'r Undeb. Mae Seren yn therapydd tylino chwaraeon cymwysedig, a bu’n rhoi cyngor i Gareth ar strategaethau adferiad gan gynnwys ymarferion ymestyn, buddion tylino a maeth.
Swyddog Datblygu Ymchwil ac Arloesi yw Dr Sophie Harrison sy’n gweithio ym maes gweithgarwch corfforol a pherfformiad fel rhan o broject y Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch. Rhoddodd Sophie gyngor i Gareth ynglŷn â chadw’n holliach yn ystod ei her ynghyd â rhoi cyngor am faeth iddo.
Bydd y gyfres, o’r enw Gareth Jones: Nofio Adre yn cael ei darlledu ar S4C y mis yma, a bydd modd gweld y rhaglen gyntaf am 9pm ar 29 Hydref. Bydd Alex a Seren i’w gweld yn yr ail bennod, sy’n cael ei darlledu am 9pm ar 5 Tachwedd.
Dysgwch fwy am anturiaethau Gareth yn www.garethjones.tv/nofioadre.html