Wrth i Brifysgol Bangor barhau i ddathlu can mlynedd o gerddoriaeth, dewch i fwynhau perfformiad nos Sadwrn 27 Tachwedd gan y Gerddorfa a Chorws yn Neuadd Prichard-Jones.
Arweinir y perfformiad gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth y Brifysgol Gwyn L Williams, a blaenwr y gerddorfa fydd Chris Atherton. Ar y delyn fydd Mared Emlyn, raddiodd o Fangor wedi cwblhau doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014, ac enillydd medal gyfansoddi’r Urdd am ei gwaith Perlau yn y Glaw i’r delyn. Yn ymuno hefyd ar y ffidil bydd y feiolinydd adnabyddus, Mary Hofman.
Mae’r Gerddorfa a’r Corws Symffoni hefyd yn falch o groesawu’r Soprano Catrin Hedges a’r Bariton Celt John fel unawdwyr ifanc ar gyfer y perfformiad hwn.
Yn frodor o Ddolgellau, gyda’i deulu yn dod yn wreiddiol o Bontarddulais, mae Celt John yn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Cerddoriaeth a’r Gymraeg. Bydd yn canu yr unawd bariton yn y Requiem gan Fauré.
Ar ôl astudio ei chwrs israddedig ym Mhrifysgol Bangor, aeth Catrin Hedges ati i astudio cwrs Meistr mewn perfformio. Yn wreiddiol o Abertawe, mae Catrin yn parhau i astudio ym Mangor wrth iddi astudio ei Chwrs addysg TAR. Bydd yn canu yr unawd soprano Pie Jesu yn y Requiem gan Fauré.
Meddai Gwyn L Williams, “Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau sy’n adlewyrchu ar y tensiwn rhwng y cysegredig a’r anghysegredig, thema sydd wedi ysbrydoli’r dychymyg ac wedi arwain at greu celfyddyd ddyrchafol ers canrifoedd. Dewch i fwynhau gwledd o gerddoriaeth sy’n amlygu talent cerddorol llu o unigolion sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor yn Neuadd ysblennydd Prichard-Jones.”
Rhaglen
Bizet: Overture and Suite o Carmen
Debussy: Danse Sacrée et Danse Profane i’r delyn a llinynnau
Massanet Intermezzo: Meditation o Thais i’r fiolín a cherddorfa
Fauré: Requiem mewn D Lleiaf, op 48
Tocynnau £12/£10/£5 o wefan Pontio: https://www.pontio.co.uk/online/article/21BUSONOV
Mae gwefan arbennig sy’n cynnwys siwrne trwy ganrif o ragoriaeth gerddorol wedi ei chreu fel rhan o’r dathliadau - am ragor o wybodaeth ac am fanylion y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu hyd yn hyn, ewch i https://www.bangor.ac.uk/music100.
Noder os gwelwch yn dda: O'r 15fed o Dachwedd 2021, daw rheolau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynediad i bob theatr a sinema i rym. Bydd angen i chi ddangos eich Pàs COVID y GIG i fynychu’r digwyddiad yma. Manylion ar gael yma: https://llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig