Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Biogyfansoddion a pharc gwyddoniaeth M-SParc Prifysgol Bangor i ddysgu mwy am gysylltiadau ag Iwerddon
Mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, wedi ymweld â thimoedd o Ganolfan Biogyfansoddion a pharc gwyddoniaeth M-SParc Prifysgol Bangor i ddysgu rhagor am y modd y mae Cymru yn cydweithio ag Iwerddon ar brojectau digidol ac ecogyfeillgar.
Mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, wedi ymweld â thimoedd o Ganolfan Biogyfansoddion a pharc gwyddoniaeth M-SParc Prifysgol Bangor i ddysgu rhagor am y modd y mae Cymru yn cydweithio ag Iwerddon ar brojectau digidol ac ecogyfeillgar.
Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol mewn project £3.7 miliwn wedi ei arwain gan Brifysgol Limerick i droi coed helyg i mewn i gnwd amlbwrpas ac eco-gyfeillgar ar gyfer ffermwyr, a thri chwmni gyda chysylltiadau ag Iwerddon sy’n gweithio o safle M-SParc yn rhan o don newydd o gwmnïau technoleg sy’n datblygu diagnostegau a dadansoddiadau digidol er mwyn gwella profiad cwsmeriaid.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 12 mis arall o arian ychwanegol ar gyfer project BioWILL Interreg Gogledd Orllewin Ewrop, sy’n cynnwys 10 sefydliad a chwmni o Weriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Ffrainc a Gwlad Belg gan gynnwys prifysgolion, ffermwyr a thirfeddianwyr.
Mae rhisgl helygen yn cynnwys salicin, y cemegyn rhyddhau poen a gwrthlidiol mewn aspirin sydd yn gallu cael ei droi i mewn i nifer o wahanol gynhyrchion gofal iechyd, tra bod gweddill y goeden yn medru cael ei fwydo i greu defnydd pecynnu bwyd. Mae’r math yma o ddeunydd pecynnu bioddiraddadwy yn medru cael ei ddefnyddio yn lle plastigau o danwydd ffosil ar gyfer gwahanol eitemau bwyd, gan gynnwys ffrwyth a llysiau. Unwaith i’r pecyn gyrraedd diwedd ei fywyd, mae’n bosib ei droi i mewn i fio-nwy, gyda’r gweddill yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith.
Mae gwaith ar greu’r deunydd pecynnu yn cael ei wneud gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mona ar Ynys Môn, gan dîm wedi ei arwain gan Dr Adam Charlton. Meddai Adam, “Mae’r project yn edrych ar dynnu salicin o’r rhisgl er mwyn cynhyrchu hufen i’r croen ac wedyn defnyddio’r hyn sy’n weddill ar gyfer deunydd pecynnu, bio-nwy a gwrtaith.
“Rydyn ni’n siarad gyda nifer o archfarchnadoedd, ac mae gan bob un ohonynt yr un ffocws ar leihau neu ddod â’r defnydd o becynnau plastig untro i ben ar draws yr holl ystod o gynnyrch, gan ddefnyddio pecynnau mwy cynaliadwy yn eu lle.”
“Ar gyfer y project BioWILL, yr holl fwriad yw cael gwared ar blastigau untro a chreu cylch cynhyrchu cyflawn, gyda’r deunydd pecynnau wedyn yn mynd i mewn i dreuliad anaerobig er mwyn cael ei drawsnewid i mewn i fio-nwy ar gyfer cynhyrchu ynni a bio-gwrteithiau.”
Yn ystod ei hymweliad, galwodd Lesley Griffiths AS hefyd yn M-SParc i gwrdd â thri chwmni ym maes technoleg gyda chysylltiad ag Iwerddon: Blue Lobster, Capventis a Micron Agritech sydd yn arloesi ym meysydd technoleg ddigidol mewn gwahanol ffyrdd.
Mae Blue Lobster a Capventis yn gwmnïau sy’n ymwneud â meddalwedd, gyda chleientiaid pwysig ar ddwy ochr Môr Iwerddon, tra bod Micron Agritech yn defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i ddatblygu’r Cit Micron - datrysiad ar ffurf prawf cyflym i ganfod parasitiaid mewn da byw.
Yn dilyn ymweliad y Gweinidog â M-SParc, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Pryderi ap Rhisiart, “Roedd yn wych croesawu’r Gweinidog i M-SParc heddiw a’i chyflwyno hi i rai o’n tenantiaid sydd â chysylltiad cryf â Chymru ac Iwerddon. Mae’n gyffrous dros ben cael cymaint o denantiaid yma sydd yn gweithredu’n rhyngwladol gyda rhagoriaeth, ac yn fraint i ni yn M-SParc ddatblygu’r cysylltiadau rheiny ar draws Môr Iwerddon a thu hwnt, felly pleser oedd trafod hynny ymhellach gyda’r Gweinidog heddiw.”
Meddai’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Lesley Griffiths, “Mae wedi bod yn wych gweld y gwaith arloesol sy’n digwydd yn M-SParc a thrwy’r project BioWILL. Pan wnaethom ni ariannu M-SParc, roedd am y pwrpas yma’n union - i gefnogi projectau cyffrous a blaengar yng Ngogledd Orllewin Cymru. Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn darparu £25,000 ychwanegol i alluogi BioWILL i barhau gyda’i gwaith gwerthfawr gyda Phrifysgol Limerick o ran y deunydd o helyg, sydd â photensial gwirioneddol.
“Mae’r project cydweithredol, rhyngddisgyblaethol yma yn dangos unwaith eto cryfder y cysylltiadau rheiny rhwng Cymru ac Iwerddon, ar ddatrysiadau cynaliadwy ac arloesol sy’n adeiladu ar yr ymrwymiadau yn ein Datganiad ar y Cyd a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd gyda Llywodraeth Iwerddon.”