Er bod y profion Saesneg wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg, bydd ymchwil newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn sefydlu cadernid y profion pan gânt eu defnyddio yn Gymraeg. Y nod yw sicrhau byddai dau berson sydd â'r un graddau o nam gwybyddol yn cael cyfle i lwyddo yn y iaith fyddant yn ddefnyddio yn naturiol.
Mae'r ymchwil newydd yn cael ei lansio mewn gweminar Dementia a'r Gymraeg ar Ionawr 25ain a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, canolfan sy'n arwain y byd sy'n dod ag arbenigwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe ynghyd sy'n mynd i'r afael â chwestiynau allweddol mewn heneiddio a dementia.
Bydd y pum siaradwr ar y pwnc yn trafod yr ymchwil ddiweddaraf ar effaith iaith ar lesiant, profiadau unigol, polisi Cymraeg, a phrofion gwybyddol wedi'u cyfieithu ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae diddordeb cryf yn y digwyddiad gan adlewyrchu'r gwerthfawrogiad cynyddol o bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r seminar ar-lein weld manylion y siaradwyr a chofrestru drwy ddefnyddio'r linc.
Roedd sicrhau bod fersiynau Cymraeg o'r profion dementia safonol yn cael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg yn un o brif argymhellion papur briffio ymchwil i Lywodraeth Cymru a ysgrifennwyd gan Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Ymgorfforwyd yr argymhelliad hwn yng Nghynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru, gydag IAITH: Canolfan Cynllunio Iaith Cymru bellach yn gyfrifol am sicrhau bod y fersiynau Cymraeg wedi'u profi gyda siaradwyr Cymraeg. Bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ar yr ymchwil ar y cyd â chlinigwyr ledled Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynnig Gweithredol. Mae'r Cynnig Rhagweithiol yn rhoi cyfrifoldeb ddarparwyr gwasanaethau i ofyn pa iaith fyddai fwyaf cyfforddus ac yna sicrhau y gellir cynnig cefnogaeth i ddefnyddio eu hiaith pan fydd pobl angen gofal a chymorth.
Meddai Dr Catrin Hedd Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Brifysgol:
"Rydyn ni'n gwybod y gall cyfathrebu ar lafar fod yn her i rai pobl sy'n byw gyda dementia ac mae'n hanfodol bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith gyda dementia i gyfathrebu yn yr iaith sy'n teimlo'n naturiol iddyn nhw. Nid mater o ddewis yw hyn ond angen clinigol a gall methiant gynyddu'r risg o ganlyniadau profion neu ofal amhriodol. Rydym yn hynod falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r gwaith hwn i sicrhau bydd gan glinigwyr hyder llawn yn y profion a gyfieithwyd.”
Dywedodd Dr Kathryn Jones o IAITH:
“Mae IAITH yn falch iawn o fod yn cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor a rhanddeiliaid sector iechyd a gofal allweddol ar waith Dilysu Asesiadau Dementia yn Gymraeg ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys coladu gwybodaeth am yr adnoddau/graddfeydd asesu dementia sydd ar gael yn Gymraeg, sut maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a nodi'r adnodd(au) Cymraeg cadarnaf sydd wedi'u dilysu'n glinigol.”
Bydd Kathryn yn cyflwyno gorolwg o nod, dull ac amserlen y gwaith yn y weminar Dementia a’r Iaith Gymraeg.
Mae'n gyffrous gweld cymaint o ymchwil i ddefnydd iaith yng nghyd-destun dementia a heneiddio. Mae'r iaith y gallwn ei defnyddio yn cael effaith ddwys ar ein lles, ac mae angen i ni ystyried hyn wrth gynllunio a darparu pob agwedd ar ofal i bobl hŷn neu bobl sy'n byw gyda dementia mewn cymdeithas ofalgar a ddwyieithog.