Mae Becca Barnard a Darrell Button ill dau yn astudio at radd MA Cyhoeddi a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor.
Beneath the Poisoned Roots: An Anthology of Dark Fantasy and Fables, detholiad o straeon ffantasi a chwedloniaeth yw eu cyhoeddiad cyntaf.
Gwnaeth y myfyrwyr gais am waith creadigol ar y thema gan fyfyrwyr graddedig mwyaf talentog Ysgrifennu Creadigol, a dethol gweithiau gan Alys Hall, Bow Soane, Jennifer Atzori, ac Alastair Raper.
Dyma’r tŷ cyhoeddi cyntaf i’w sefydlu gan fyfyrwyr Bangor ym mlwyddyn gyntaf y cwrs ôl-radd Cyhoeddi a Diwylliant y Llyfr.
Fel yr esbonia Eben Muse, sy’n arwain y cwrs:
“Ymgymerodd Becca a Darrell â’r aseiniad modiwl, sef cyhoeddi llyfr, a thrwy hynny sefydlu’r cwmni cyhoeddi Barnard & Button Publishing. Aethant ati i ganfod yr enghreifftiau gorau o ysgrifennu creadigol o blith cymuned ysgrifennu creadigol y Brifysgol a’u cyhoeddi mewn cyfrol sydd wedi’i olygu a’i ddylunio’n broffesiynol, ac sydd ar gael i’w brynu ar draws y byd.”
Mae cyhoeddi llyfr yn galw am sgiliau golygu, dylunio, trefnu a sgiliau ymdrin â phobl, ac mae lansiad y llyfr yn dangos bod y myfyrwyr yn meddu ar bob un o’r rhain.”
Dilynodd Becca gwrs Astudiaethau Creadigol ac astudiodd Darrell Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Bangor ac roedd y ddau yn awyddus i fwrw ymlaen i ddysgu mwy am fyd cyhoeddi.
Mae Becca a Darrell yn gobeithio parhau ym maes cyhoeddi ar ôl cwblhau eu cwrs MA.
Eglurodd Becca:
“Fy nod yw cychwyn fy nghwmni cyhoeddi fy hun. Hoffwn ganolbwyntio ar awduron yn hytrach na chynnwys, a hoffwn roi llais i ferched sy’n ysgrifennu yn ogystal ag ysgrifenwyr LHDTC+ neu rai sy’n cael eu hyrwyddo o dan y fantell honno, ac i eraill sy’n ei chael hi’n anodd i gael clywed eu llais. Heblaw am hynny, ffuglen yw fy angerdd mawr i.”
Ychwanega Darrell:
“Roeddwn yn ystyried dilyn gradd bellach, ac yn gweld yr MA mewn cyhoeddi’n berffaith. Roeddwn eisoes wedi penderfynu mai cyhoeddi oedd y proffesiwn yr hoffwn weithio ynddo, gan ddefnyddio fy sgiliau mewn ysgrifennu creadigol a chynorthwyo eraill i greu llyfrau - mae’n broses ragorol i fod yn rhan ohoni.”
Eglurodd Darrel mai amcan y modiwl cyntaf ar y cwrs oedd creu casgliad o straeon byrion ac y byddant yn dysgu sut i gyhoeddi e-lyfr y semester nesaf, a bod Darrel a Becca wedi dewis sefydlu tŷ cyhoeddi fel eu thesis Meistr, a’u bod yn teimlo eu bod eisoes ran o’r ffordd yno.
Darparwyd y darluniau a chynllun y clawr gan Daria Wolf a Sarah Teece sydd hefyd wedi graddio o Brifysgol Bangor. Mae’r llyfr ar gael i’w phrynu ar Amazon: Beneath the Poisoned Roots: An Anthology of Dark Fantasy and Fables.