DIWEDDARIAD:
O GANLYNIAD I'R TYWYDD GARW A'R FFAITH BOD CYNGERDD 'WELSH OF THE WEST END' WEDI EI OHIRIO AM Y TRO, NI FYDD Y DOSBARTH MEISTR YN CAEL EI GYNNAL YFORY DYDD SADWRN 19 CHWEFROR. MAE'R RHAI SYDD WEDI COFRESTRU WEDI CAEL GWYBOD A BYDD DYDDIAD NEWYDD YN CAEL EU DREFNU MOR FUAN Â PHOSIB.
Fel rhan o ddathliadau Prifysgol Bangor o gan mlynedd o Gerddoriaeth yn y brifysgol, ar ddydd Sadwrn 19 Chwefror rhwng 9.45-12pm bydd perfformwyr o sioe ‘Welsh of the West End’ yn rhannu eu profiadau a chyngor trwy ddosbarth meistr ar gyfer rhai oed 16-25 yng nghanolfan gelfyddydau’r Brifysgol, Pontio Bangor.

Eglura Ffion Evans, Pennaeth Drama, Theatr a Pherfformiad, “Dyma gyfle gwych i’n myfyrwyr a phobl ifanc eraill sydd â diddordeb mewn perfformio gael profiad rhyngweithiol iawn gydag unigolion sy’n dilyn gyrfa ym maes sioe gerdd. Byddwn yn cynhesu’r llais, ac yn gwneud ymarferion llais a pherfformio i sioeau cerdd mewn grŵp. Yna bydd cyfle i unigolion ganu yn unigol gydag eraill yn gwylio. Os nad yw rhywun yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ganu ar ben ei hunain, tydi hynny ddim yn broblem, gan fod yna croeso i wylio hefyd.”
Bydd y dosbarth meistr yn cael ei redeg gan Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych, sydd wedi ennill dors 160 gwobr cenedlaethol, wedi gwneud deuawdau gyda Katherine Jenkins, wedi canu gyda Only Men Aloud a rhyddhau dwy albwm a Tom Hier, yn wreiddiol o Ferthyr Tydfil, sydd hefyd wedi teithio gyda Only Men Aloud a chwarae rhan Chris yn Miss Saigon (Taith Rhyngwladol); Joseph yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat (Taith y Deyrnas Unedig) a Chuck Cranston yn Footloose (Taith y Deyrnas Unedig).
Meddai Steffan Rhys Hughes, “Dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr i ddychwelyd i Pontio ar ôl rhai blynyddoedd erbyn hyn. Mae’n adeilad arbennig i’r celfyddydau yng Ngogledd Cymru, ac mi fydd hi'n braf cael perfformio yno hefo criw Welsh of the West End am y tro cyntaf. Mae’r cyfle i gael cynnig dosbarth meistr i dalentau ifanc disglair yr ardal yn un arbennig iawn, yn enwedig yn y maes Sioe Gerdd. Bydd Tom Hier yn arwain y dosbarth meistr - perfformiwr sy’n hynod brofiadol yn y maes ac erbyn hyn yn hyfforddi disgyblion rhai o golegau perfformio mwyaf eiconig Llundain, gan gynnwys Italia Conti, a Guilford School of Acting.”
Sylfaen ein dathliadau #Cerddoriaeth100 eleni yw tynnu sylw at weithgareddau cerddorol y Brifysgol o fewn y gymuned.
Mae’r hyn a ddechreuodd can mlynedd yn ôl, sef y gerddorfa a’r côr - y ddau a’u gwreiddiau yn nyfn yn y ddinas - yn gryf iawn o hyd.
Hynod braf yw croesawu bobol ifanc i’n dathliadau hefyd. A pha well ffordd o wneud hyn na chreu cyfle i bobl ifanc yr ardal fwynhau gwaith y goreuon o’r cerddorion Cymraeg sydd yn mwynhau llwyddiannau mawr ym myd y sioe gerdd, a hefyd iddynt gyfarwyddo eu hunain â holl adnoddau bendigedig Pontio.
I gofrestru ar gyfer y dosbarth meistr sy’n rhad ac am ddim cliciwch yma. Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, ac fe fydd y sesiwn yn ddwyieithog.
Bydd sioe ‘The Welsh of the West End’ yn Theatr Bryn Terfel, Pontio nos Wener 18 Chwefror. Ewch i www.pontio.co.uk am ragor o fanylion.