Mae’r tîm, o Brifysgol Bangor, yn y gogledd, yn gofyn i bawb sy’n gweld potel ddiod Lucozade a daflwyd o’r neilltu roi gwybod iddynt gan ddefnyddio’r hashnod #LucozadeLitter.
Caiff y data a gesglir ei ddefnyddio fel rhan o broject ehangach sy’n ymchwilio pam mae pobl yn taflu sbwriel a beth ellir ei wneud yn ei gylch.
Cafodd poteli Lucozade eu dewis oherwydd i astudiaeth gan y sefydliad Trash Free Trails ddangos mai dyna oedd yr eitemau mwyaf cyffredin o sbwriel ar lwybrau beicio mynydd ledled y Deyrnas Unedig.
Wrth esbonio’r hyn y gall pobl ei wneud i gymryd rhan, dywedodd cyd-arweinydd y project, Dr Christian Dunn: “Os ydych chi’n mynd am dro ac os gwelwch chi botel Lucozade y mae rhywun wedi ei thaflu, tynnwch lun ohoni, a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r lleoliad a rhowch yr hashnod #LucozadeLitter.
“Rydym yn ceisio creu darlun i weld beth yw maint y broblem mewn gwahanol ardaloedd, gyda’r nod yn y pen draw o weld sut y gall cynhyrchwyr y prif eitemau sbwriel a’u defnyddwyr gydweithio i leihau sbwriel.”
![Gprweddai potel plastig, wedi ei thaflu , yn y cefndir mae defaid yn pori mewn cae.A plastic bottle lies discarded in the foreground, while sheep graze in the field](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-02/20220102_115514.jpg?h=92229be0&itok=uPBQHmEo)
![Gorweddai potel plastig Lucozade yn y gwair mewn amgylchedd mynyddig](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-02/20220101_103625.jpg?h=92229be0&itok=NEBu-i0a)
![Gwena dun efo gwallt du pigog a chrys glas ar y camera](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-02/Christian_Dunn_Bangor_University_1.jpeg?h=b818f2e2&itok=oM-VJAdl)
![Dyn efo gwallt tywyll cyrliog a spectol yn gwisgo crys glas golau yn sefyll gyda choed yn y cefndir](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-02/Nathan%20Abrams_pic2.jpeg.jpg?h=a3162579&itok=AcvGl7wc)
#LucozadeLitter
“Ac os yw’n bosibl, cofiwch godi’r sbwriel ar ôl i chi dynnu’r llun a’i waredu’n iawn,” ychwanegodd Dr Dunn.
Dywedodd cyd-arweinydd arall y prosiect, yr Athro Nathan Abrams: “Gall pawb weld bod taflu sbwriel yn broblem ac mae hynny er gwaethaf yr ymgyrchoedd di-ri’ dros ddegawdau a fu’n ceisio gwneud rhywbeth yn ei gylch.
“Mae ein hymchwil yn ystyried a allwn edrych ar hyn o ongl wahanol: nid mater o roi’r bai i gyd ar y sawl sy’n taflu sbwriel ydyw, mae angen meithrin cyd-gyfrifoldeb y defnyddiwr a’r cynhyrchydd.
“Er mwyn rhoi terfyn ar daflu sbwriel, rhaid ailfeddwl sut mae mynd i’r afael ag ef.”
Mae elusen amgylcheddol genedlaethol flaenllaw, 2 Minute Foundation, eisoes wedi dangos ei chefnogaeth i’r prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol drwy annog ei dilynwyr i ddefnyddio’r hashnod #LucozadeLitter.
Dywedodd yr elusen, sy'n rhedeg yr ymgyrch boblogaidd #2MinuteBeachClean:
“Rydym yn annog pawb sy’n glanhau’r traeth am ddau funud i gymryd rhan yn y project trwy roi gwybod i ymchwilwyr Prifysgol Bangor ble gwelsant sbwriel Lucozade - mae’n bwysig iawn bod pawb yn cydweithio i lanhau ein planed, bob cyfle sydd."
I gymryd rhan yn y project #LucozadeLitter a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), gallwch ddefnyddio’r hashnod wrth uwchlwytho eich canfyddiadau ar Instagram neu Twitter.