Mae DCGO yn un o 11 darparwr cyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghymru ac yn cyflogi dros 70 o staff. Mae’n cynnig y gwasanaeth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae’r dyfarniad hwn gan Estyn yn cadarnhau statws y Brifysgol fel y darparwr uchaf ei safon trwy Gymru gyfan.
Gyda dros 2000 o ddysgwyr yn flynyddol yn Siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, mae cyfraniad y ddarpariaeth yn hynod o bwysig tuag at nod strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, Llywodraeth Cymru.
Ers y cyfnod clo cyntaf ddwy flynedd yn ôl, a’r symud tuag at ddysgu ar-lein yn llwyr, gwelwyd cannoedd o ddysgwyr newydd yn dysgu Cymraeg ar gyrsiau DCGO. Yn ogystal â dysgwyr o Gymru, mae nifer sylweddol o ddysgwyr o bedwar ban byd bellach yn dilyn cyrsiau DCGO yn arbennig o lwyddiannus.
Nododd Estyn fod gan DCGO “weledigaeth glir a chadarn iawn ar gyfer darparu gwasanaeth o'r safon uchaf” a’i fod “yn canolbwyntio ar sicrhau profiadau dysgu cyfoethog er mwyn cynnal cynnydd y dysgwyr”.
Wrth gyfeirio at lwyddiant y dysgwyr, canmolwyd y ffaith fod dysgwyr DCGO yn defnyddio eu Cymraeg yn y gymuned ac “...yn dangos penderfyniad i ddod yn rhan o gymunedau Cymraeg yr ardal. Maent yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol...”.
Roedd Estyn yn canmol ymdrechion DCGO i warchod lles ei ddysgwyr ac i “roi blaenoriaeth i greu ymdeimlad o gymuned ddysgu gynhwysol” a bod y dysgwyr eu hunain wedi “datgan yn nerthol bod dysgu’r iaith o bell [yn ystod Covid] wedi bod yn fuddiol iawn i’w hiechyd meddwl a lles yn ystod y cyfnod hwn”. Yn ychwanegol at hyn, wrth sôn am y gofal a’r cymorth a roddir i ddysgwyr nododd Estyn fod y “modd y mae pawb sy’n aelod o’r gymuned glos, ofalgar hon yn llwyr ymroddedig i gefnogi pob dysgwr” yn “nodwedd arbennig”.
DCGO yw’r unig ddarparwr o blith yr 11 yn genedlaethol i dderbyn dyfarniad ‘Rhagorol’ am safon addysgu ei staff. Nododd Estyn bod y tiwtoriaid “yn darparu profiadau cyfoethog o fewn dosbarthiadau a chymunedau rhithiol sy’n cefnogi dysgwyr yn fuddiol wrth iddynt ddatblygu eu hyder i siarad Cymraeg”.
Wrth ymateb i hyn, dywedodd Cyfarwyddwr DCGO, Dr Ifor Gruffydd “y ddau beth sy’n sefyll allan i mi yn yr adroddiad hwn ydy’r ganmoliaeth uchel a roddwyd i allu ac ymroddiad y dysgwyr drwyddi draw, ac i ansawdd ein tîm o staff sy’n cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf. Mi welodd Estyn ganlyniad y ddau beth yma sef cymuned ddysgu glos a chynhaliol lle mae’r dysgwyr yn llwyddo i ddysgu’r Gymraeg.”
O safbwynt arweinyddiaeth a rheolaeth y ddarpariaeth, aeth yr adroddiad yn ei flaen i nodi fod “gan DCGO weledigaeth glir a chadarn iawn ar gyfer darparu gwasanaeth o’r safon uchaf” a bod angerdd “dros sicrhau’r ddarpariaeth orau bosib”.
Wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio ymhellach gan Lywodraeth Cymru, mae Dr Gruffydd rŵan yn edrych ymlaen at gael cynnig gwersi wyneb yn wyneb unwaith eto, yn ogystal â pharhau gydag arlwy ar-lein. “Yr hyn sy’n braf rŵan ydy edrych ymlaen at fedru cynnig dewis i’n dysgwyr cyfredol ni ac i ddysgwyr newydd, ac mae’r adroddiad hwn gan Estyn yn rhoi sicrwydd iddyn nhw fod yr hyn sy’n cael ei gynnig gennym ni drwyddi draw o'r safon uchaf un.”
Adroddiad Estyn llawn -
Ewch i www.dysgucymraeg.cymru/go i wybod mwy am DCGO.