Roedd Iwan Llewelyn Jones, Pennaeth Perfformio Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, yn un o dri beirniad Gwobr Cerddor Ifanc y Caribî yn y Weriniaeth Ddominicaidd. Bu hefyd yn arwain dosbarthiadau meistr ar gyfer talent ifanc addawol ac yn lledaenu’r gair am adran cerdd, drama a pherfformio Prifysgol Bangor fel rhan o’i ymweliad.
Mae Gwobr Cerddor Ifanc y Caribî yn fenter gydweithredol sy’n dwyn ynghyd arbenigedd o Lysgenhadaeth Prydain (Gweriniaeth Ddominicaidd), Siambr Fasnach Prydain (Gweriniaeth Ddominicaidd), ABRSM - Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerddoriaeth Frenhinol, a’r adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor i annog a chefnogi perfformiadau cerddoriaeth glasurol ymhlith plant a phobl ifanc ynysoedd y Caribî a rhoi llwyfan i offerynwyr dawnus.
Ar ôl cyflwyno ceisiadau cychwynnol trwy fideo, mae pobl ifanc sy’n cyrraedd ail rownd y gystadleuaeth yn cael y cyfle i fynychu dosbarthiadau meistr a gweithdy cerddorfaol a pherfformio mewn digwyddiad cyhoeddus yn y Teatro Nacional Eduardo Brito yn Santo Domingo gyda chynulleidfa a beirniaid yn bresennol. Yn dilyn y perfformiad hwn, mae’r enillydd o bob grŵp oedran yn cael y wobr o gyfle i fynychu Ysgol Haf arbenigol yn y DU, gyda ffioedd a chostau teithio yn cael eu talu.
Meddai Iwan, “Roedd yn fraint cael gweithio gyda’r cerddorion ifanc hyn. Roeddent mor agored a brwdfrydig, yn barod i roi cynnig ar syniadau newydd a datblygu'r grefft arbennig honno o adrodd stori trwy gerddoriaeth. Mae cerddoriaeth ym mhobman yn Santo Domingo, gyda phopeth o gerddoriaeth glasurol i jazz i’w glywed ar y gwynt, a hyd yn oed gwersi cerddoriaeth ‘yn y fan a’r lle’ yn digwydd yn y prif sgwâr. Gobeithio fy mod wedi llwyddo i rannu peth o’n ymagwedd ninnau at ddysgu cerddoriaeth yma ym Mangor, ac inni gynnig hyd yn oed mwy o syniadau I’r bobl ifanc talentog hyn drwy’r dosbarthiadau meistr. Yn yr un modd, rwy’n dod â llawer o syniadau yn ôl I Fangor gyda mi – am sut i rannu llawenydd cerddoriaeth gyda’n myfyrwyr a’r gymuned ehangach.”
Bydd Iwan yn beirniadu cystadlaethau piano ac ensemble yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych ym mis Mehefin.