Dyn camera, ffotograffydd, cyflwynydd teledu a chadwraethwr bywyd gwyllt yw Hamza Yassin. Cafodd ei eni yn Sudan a’i fagu yn yr Alban. Mae wedi gwneud enw iddo’i hun yn y diwydiant gwneud ffilmiau, sy’n faes hynod gystadleuol. Yr hyn a’i helpodd i wneud ei farc fel dyn camera bywyd gwyllt oedd ei ymroddiad a'i sgil wrth dynnu lluniau anhygoel o fywyd gwyllt yn yr Alban a Chymru. Ond sylweddolwyd yn gyflym iawn hefyd mor ddawnus ydyw o flaen y camera - ac i genhedlaeth o blant ifanc, ef yw Ranger Hamza ar CBEEBIES!
Bu Let's Go for a Walk with Ranger Hamza yn rhaglen hynod boblogaidd i blant. Cafodd pedair cyfres eu darlledu, ac o’r rhaglen honno deilliodd Ranger Hamza’s Eco-quest a fydd yn cael ei ddarlledu fis hydref. Cyhoeddwyd llyfr hefyd am y ceidwad bywyd gwyllt.
Heddiw roedd Hamza yn derbyn gradd Meistr er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth yn ychwanegol at y radd mewn Swoleg gyda Chadwraeth a gafodd ym Mangor yn 2011 ac at y radd meistr mewn Ffotograffiaeth a Delweddu Biolegol o gafodd o Brifysgol Nottingham.
Dywedodd yr Athro Julia Jones, a gyflwynodd y radd er anrhydedd iddo:
"Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn ymfalchïo ym mhob un o’n graddedigion. Does dim sy’n ein gwneud yn hapusach na dysgu am y pethau amrywiol a diddorol y mae ein cyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i'w gwneud, boed hynny’n uniongyrchol gysylltiedig â'u gradd ai peidio. Yn sicr, ni fyddai wedi bod yn hawdd peidio â bod yn ymwybodol o yrfa lewyrchus Hamza. Mae i’w weld yn gyson ar y teledu, neu'n ymddangos ar dudalennau Wildlife, cylchgrawn bywyd gwyllt y BBC.
"Mae Hamza yn wneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt angerddol a gwybodus iawn ac mae ganddo arddull gyflwyno hynod o gynnes ac agos-atoch ac mae ei waith yn gwneud argraff go iawn ar bobl.
"Rydym hefyd mor ddiolchgar am gyfraniad Hamza i'w gyn-brifysgol. Mae wedi bod yn dychwelyd i Fangor fel darlithydd gwadd gan ddarlithio i fyfyrwyr sy'n astudio ymarfer cadwraeth. Daw’r myfyrwyr o’i ddarlithoedd wedi'u hysbrydoli gan ei straeon am y gwaith caled y mae angen i wneud cyn y gall lwc ddod i ran neb."
Dewisodd Hamza astudio ym Mhrifysgol Bangor sydd ag enw da am fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac addysgu ym maes cadwraeth, a buan iawn y syrthiodd mewn cariad â pha mor gyfeillgar yw’r ddinas. Mae gan Hamza ddyslecsia ac mae’n talu teyrnged i’w Athrawon a’i ddarlithwyr yn y brifysgol, ac i’r tîm cefnogi dyslecsia, ac i’r ffrindiau a wnaeth yma, am eu gofal a’u hamynedd a wnaeth ei helpu i lwyddo yn ei astudiaethau.
Dywedodd Hamza:
"Ym Mhrifysgol Bangor datblygais ddiddordeb ysol mewn cadwraeth a bywyd gwyllt ac rwyf mor ddiolchgar am y gefnogaeth a'r anogaeth a gefais drwy gydol fy astudiaethau. Fy nghyfnod yn y brifysgol oedd amser gorau fy mywyd hyd yma a rŵan dwi’n cael dilyn fy mreuddwyd ar bob taith bywyd gwyllt dwi’n ei gwneud."