Yn y Cwis mae tri o fyfyriwr dewr Bangor yn herio'u hathrawon mewn gornest i’r chwim eu meddwl ar y sioe gwis ysgafn dan ofal y digrifwr, Steve Punt.
Mae’r sioe dan ofal y comedïwr Steve Punt fel cwis feistr, ac mae rowndiau sy'n amrywio o Wybodaeth Gyffredinol, i rownd pwnc-benodol a rownd 'Uchel Ael / Isel Ael', lle gall myfyrwyr herio eu hathrawon ynghylch diwylliant poblogaidd.
Yn cynrychioli’r myfyrwyr mae: Fede Celyn Thomas, sy'n astudio Astudiaethau Ffilm; Callum Cocks, yn astudio Sŵoleg a'r myfyriwr Herpetoleg ac Addysg Ben Wilkinson.
Yn ceisio cynnal enw da cymuned academaidd Prifysgol Bangor, mae: Nathan Abrams, Athro Ffilm; Dr Anita Malhotra, arbenigwr herpetoleg a darllenydd mewn sŵoleg a Dr Sarah Olive, Uwch Ddarlithydd Addysg.
Dywedodd Ben, sydd newydd gwblhau ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor,
“Cymerais ran yn The 3rd Degree oherwydd fy mod i’n mwynhau creu cwisiau a chymryd rhan ynddynt. Dwi hefyd yn ffan o Steve Punt felly allwn i ddim colli'r cyfle i gwrdd ag un o fawrion y byd comedi. Ni wneuthum i gwis fel hwn erioed o'r blaen ond roedd yn brofiad pleserus iawn. Roedd cefnogaeth timau’r myfyrwyr a’r athrawon yn anhygoel. Bu’r gynulleidfa hefyd yn helpu tawelu nerfau pobl a syndod o’r mwyaf oedd gweld wynebau o wahanol adrannau’r brifysgol. Dysgais nad mater hawdd yw gwneud sioe gwis a bod rhaid gwneud rhai ail recordiadau i wneud popeth yn berffaith. Os cewch chi’r cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn rwy’n ei argymell yn fawr.”
Dywedodd Dr Anita Malhotra:
“Roedd yn noson hwyliog, yn rhoi cipolwg ar waith mewnol sioe radio, a bu’n gyfle i gwrdd â’r digrifwr Steve Punt (eicon o sîn gomedi Prydain!) ac i brofi pa mor gyflym y gallaf ddwyn ffeithiau esoterig o’r cof ac ymateb yn y rownd “bysedd ar y bysar”. “
Dywedodd Dr Sarah Olive,
'Rwyf yn mwynhau cwis da am wybodaeth gyffredinol, ac mi fachais ar y cyfle. A phoeni’n nes ymlaen! beth wneis i oedd agor holl lyfrau darllen Astudiaethau Addysg a ddefnyddiaf gyda’r myfyrwyr er mwyn adolygu. Roedd yn bleser cwrdd â’r tîm cynhyrchu ac roedd Steve, y gweseiwr, yn hyfryd a gwnaethant ein cysuro a’n lleddfu o’r cychwyn cyntaf ar y diwrnod. Fel newydd-ddyfodiad cymharol i Fangor, dim ond gwaith fy nghydweithwyr yn y bwletin yr oeddwn i wedi'i weld, felly braf oedd cyfarfod â nhw yn bersonol. Roedd ein cydweithrediad trawsddisgyblaethol yn gryf! Mae'r pandemig wedi cyfyngu ar gymdeithasu ymhlith y myfyrwyr mewn mannau hwyliog ac anffurfiol, felly bu gwneud y sioe’n hwb o ran eistedd wrth fwrdd neu ddau yn cael hwyl ac yn bwysicach, yn cellwair gyda nhw. Roedd masgotiaid y ddraig a roddodd y brifysgol inni’n destun clod mawr yn yr adran ac mae fy un i'n gweithio'n galed yn helpu arddangos fy ymchwil, addysgu a chyfnewid diwylliannol yn Japan (#draiginjapan)'.
Cofiwch wrando i weld sut hwyl gafodd academyddion a myfyrwyr Prifysgol Bangor arni!