Mae gan Ruby Wax gysylltiadau ymchwil ac addysgu ag Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor ac, yn benodol, gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar y Brifysgol. Bu ar enciliadau Ymwybyddiaeth Ofalgar, gan ddefnyddio ei phrofiadau i ddeall mwy am sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddarparu cymorth therapiwtig i bobl sy'n byw gydag iselder a phryder.
Mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno Doethuriaeth er Anrhydedd i Ruby Wax am ei gwaith yn amlygu a thrafod iechyd meddwl.
Wrth dderbyn y Radd er Anrhydedd, dywedodd Ruby,
“Mae’n anrhydedd derbyn y Radd er Anrhydedd hon, doeddwn i ddim yn dda yn yr ysgol, felly byddai fy athrawon yn synnu wrth fy ngweld i fan hyn, fel y byddai fy rhieni.
Wrth annerch y graddedigion nyrsio, dywedodd,
“Rwy’n meddwl mai nyrsys yw’r arwresau a’r arwyr, yn enwedig nawr, ar ôl y pandemig, gallai’r pandemig nesaf fod yn un o drawma, felly rydw i wir yn meddwl mai dyma’r amser y bydd angen help ar nyrsys ac mae angen sylweddoli pŵer iechyd meddwl dros iechyd corfforol weithiau.
Wrth gyfleu ei phrif neges am y diwrnod, ychwanegodd,
“Fel rydw i bob amser wedi dweud wrth unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl, fy neges yw peidio â chywilyddio. Mae’r ystadegau yn un o bob pedwar, a phe bai gan unrhyw un unrhyw anabledd corfforol arall, byddent yn dweud wrth bawb a byddent yn cael eu cefnogi heb unrhyw gywilydd. Mae’n rhaid i ni atal y cywilydd, allwn ni ddim atal y salwch meddwl.”
Cyflwynodd yr Athro Oliver Turnbull, y Dirprwy Is-Ganghellor, Ruby Wax am ei Doethuriaeth a dywedodd,
"Mae Ruby wedi cefnogi cynulleidfa hollol newydd gydag iechyd meddwl gan drafod materion cymhleth yn ymwneud â’r ymennydd a’r eddwl mewn ffordd hygyrch a doniol yn aml ond bob amser gyda phwynt difrifol sef bod angen i ni ail-fframio’r sgwrs a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig o hyd â salwch iechyd meddwl.
Yn wir, mae Ruby wedi siarad yn aml am ei phrofiadau ei hun gydag iselder a does dim dwywaith y bu ei natur agored yn gefnogaeth sylweddol a chadarnhaol i gymaint o bobl sydd fel arall wedi wynebu heriau salwch meddwl ar eu pen eu hunain ac mewn distawrwydd.”
Cymerodd Ruby ran mewn ymchwil arloesol yn y Brifysgol yn 2015 lle sganiodd niwrowyddonwyr ei hymennydd cyn ac ar ôl iddi fod ar encil ymwybyddiaeth ofalgar. Datgelodd yr ymchwil hwn y gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar cyson helpu rhywun i ymdopi’n well â digwyddiadau emosiynol trallodus. Mae hyn yn rhoi esboniad gwyddonol cadarn pam y gall ymwybyddiaeth ofalgar gynnig cymaint o fanteision i’r rhai sy’n profi heriau iechyd meddwl.
Yn 2014 treuliodd Ruby amser gyda’r Athro Rebecca Crane, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar – i gael gwybodaeth ar gyfer ei llyfr A Mindfulness Guide for the Frazzled, a aeth rhagddo i fod y llyfr a werthodd fwyaf.
Mae Ruby wedi ysgrifennu sawl testun arall am ymwybyddiaeth ofalgar ac iechyd meddwl, ac wedi casglu byddin o gefnogwyr enwog, gan gynnwys Stephen Fry, Davina McCall, Goldie Hawn a Russell Brand, yn ogystal ag academyddion o fri fel yr Athro Jon Kabat-Zinn, Mark Williams, a Daniel Siegel.
Mae hi'n llysgennad i Gymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain ac i'r elusennau iechyd meddwl MIND a SANE. Hi yw llywydd Relate a Changhellor Prifysgol Southampton.