Yn cystadlu yn y categorïau i ferched bydd Catrin Jones (55kg), cyn-fyfyrwraig seicoleg a Chynorthwyydd Recriwtio gyda Thîm Recriwtio a Derbyniadau’r Deyrnas Unedig yn y Brifysgol, a Hannah Powell (49kg), cyn-fyfyrwraig gwyddorau chwaraeon. Bydd Mikey Farmer (73kg), cyn-fyfyriwr daearyddiaeth, hefyd yn cystadlu yng nghategori’r dynion.
Bob blwyddyn mae Prifysgol Bangor yn cefnogi athletwyr elît trwy gynnig ysgoloriaethau chwaraeon i fyfyrwyr, ac i athletwyr lleol dawnus.
Mae’r tri fydd yn cymryd rhan yn Gemau’r Gymanwlad wedi derbyn yr ysgoloriaethau hyn. Mae Catrin wedi cipio rhywfaint o fedalau cenedlaethol a rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf. Hi yw pencampwr Cymru a Phrydain ac yn ei chystadleuaeth ryngwladol ddiweddaraf yn 2021 enillodd y fedal efydd Ewropeaidd dan 23 oed, ac enillodd ei grŵp yn y Grand Prix Codi Pwysau yn Luxembourg yn gynharach yn y mis.
Caiff Catrin ei hyfforddi gan ei thad Dave Jones, sy’n rheolwr iechyd a ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford. Ar gais trefnwyr y Gemau, mae Dave ar secondiad o’i rôl bresennol i fod yn gyfrifol am y cyfleusterau codi pwysau ym Mirmingham.
Dywedodd Catrin, “Mae bob amser yn anrhydedd cael fy newis i gynrychioli Cymru, a dw i’n edrych ymlaen at y cystadlu. Hwn fydd yr ail dro i mi gael mynd i Gemau’r Gymanwlad. Myfyrwraig o’n i’r tro cyntaf i mi fynd yn 2018. Mae'r brifysgol wedi chwarae rhan enfawr yn fy nhaith ym myd y campau, yn enwedig dros y pedair blynedd ddiwethaf ers y gemau diwethaf. Mae fy sgiliau wedi datblygu'n aruthrol trwy gael mynediad at y cyfleusterau chwaraeon penigamp sydd i’w cael yng Nghanolfan Brailsford. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn y brifysgol sydd wastad wedi bod mor gefnogol i mi yn fy ngwaith ac wrth weithio ar fy nghamp.”
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol, Prifysgol Bangor, “Dymunwn bob lwc i'n hathletwyr yn y Gemau. Mae bod â chyn-fyfyriwr yn Nhîm Cymru yn anrhydedd enfawr i ni ac yn adlewyrchu’r buddsoddiad rydym wedi gallu ei wneud i gefnogi ein myfyrwyr ein hunain a’r gymuned chwaraeon yng Ngogledd Cymru. Rydym wrth ein boddau bod y cyfleusterau arbenigol sydd gennym yng nghampfa Platfform81 wedi helpu ein myfyrwyr i ddatblygu a chyflawni eu potensial.”