Bangor yn cyd-gyflwyno Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas 2022 dros yr hydref
Bydd Prifysgol Bangor yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd eleni i gynnal digwyddiadau ar y cyd fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol rhwng 22 Hydref – 13 Tachwedd.
Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol sydd eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed, yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol, gyda digwyddiadau am ddim a'r rhan fwyaf yn agored i bawb.
Eglura Dr Corinna Patterson o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, “Gyda ‘Fy Ardal Leol’ yn thema i’r ŵyl, teimlai’r ddau sefydliad fod hwn yn gyfle perffaith i arddangos y gorau o gyfraniadau academaidd Cymreig o fewn y gwyddorau cymdeithasol, mewn meysydd megis hanes, y gyfraith, yr economi, y gymdeithas Gymraeg a’r Gymraeg. Mae hefyd yn gyfle i arddangos faint o gydweithio sy’n digwydd ledled Cymru, a bydd nifer o’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ym Mangor a Chaerdydd.
Bydd yr ŵyl yn cychwyn ym Mangor drwy ddathlu amrywiaeth yn ein cymunedau Cymreig yn nigwyddiad lansio 'Celebrating Heroes and Sheroes' a gynhelir gan Race Council Cymru. Bydd digwyddiad arall yn archwilio sut y gall llên gwerin a chwedlau chwarae rhan yn y Gyfraith yn 'Tales, Trials and Environmental Justice: Accessing Law Through Storytelling'.
Bydd rôl sylweddol busnesau bach a chanolig yn economi’r DU yn cael ei drafod gan Dr Mahshid Bagheri a Dr Siwan Mitchelmore o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, a bydd digwyddiadau eraill yn amlygu sut mae cymdeithaseg yn cael ei haddysgu yn y Gymraeg ar gyfer Level A gan ddefnyddio cartŵnau, sut y gallai Incwm Sylfaenol Cyffredinol fod yn ateb posibl i newid hinsawdd, neu beth am ddod draw i dreulio’r noson yn chwarae gêm fwrdd newydd yng nghaffi Teras Prifysgol Bangor, digwyddiad wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn, a chyfrifol yn fyd-eang?
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer ymgysylltu dinesig, “Mae’r ŵyl, sy’n cynnwys llawer o bartneriaid lleol, yn gobeithio archwilio materion cymdeithasol cyfoes a dangos pa mor ganolog yw’r gwyddorau cymdeithasol o ran deall ein cymdeithas a dod o hyd i ffyrdd o wneud cymdeithas yn gryfach ac yn iachach.
“Dyma gyfle gwych i rannu gyda’r cyhoedd, hen ac ifanc, pa mor ddiddorol, arloesol a pherthnasol yw ymchwil y gwyddorau cymdeithasol i’n bywydau ni ein hunain a chymdeithas yn gyffredinol – mae cymaint o ddigwyddiadau bendigedig yn digwydd yn yr ŵyl hon – felly ymunwch â ni !”
I weld y rhaglen lawn ewch i: https://www.bangor.ac.uk/cy/esrc/esrc-gwyl-y-gwyddorau-cymdeithas