Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu ei harbenigedd sylweddol mewn technoleg adnewyddadwy at gynorthwyo tri sector diwydiant allweddol yn y Deyrnas Unedig i ddatgarboneiddio, gan ddisodli deunyddiau anadnewyddadwy a ddefnyddir mewn prosesau gweithgynhyrchu, gyda dewisiadau adnewyddadwy eraill sy'n cael eu dargyfeirio o wastraff.
Mewn grant ymchwil £7.3 miliwn gan Innovate UK, o’r enw BONDIFI, mae Canolfan Biogyfansoddion y brifysgol yn arwain ar y gwaith profi sy’n angenrheidiol er mwyn lleihau ôl troed carbon rhai o’r sectorau diwydiannol mawr sy’n cynhyrchu’r mwyaf o garbon yn y Deyrnas Unedig, gan dyfu diwydiant cemeg ‘gwyrdd’ ar yr un pryd.
Bydd y Ganolfan Biogyfansoddion yn profi’r resinau newydd sy'n deillio o blanhigion ar raddfa ffatri. Bydd y resin newydd yn disodli resinau sy'n deillio o olew, a ddefnyddir yn helaeth wrth wneud dodrefn, paneli adeiladu a chastio metel. Mae gan gynhyrchion sy'n cynnwys resin neu sy'n defnyddio resin yn y broses weithgynhyrchu ôl troed carbon mawr, ac mae gan y resinau hyn ofynion gweithgynhyrchu ynni-ddwys yn ogystal â’r ffaith eu bod wedi eu deillio o olew.
Bydd y grŵp yn datblygu profion ar raddfa ffatri gan ddefnyddio resinau adnewyddadwy bio-ddeilliannol. Mae gan y project ddwy flynedd y gallu i lansio economi gylchol gyntaf y Deyrnas Unedig ar gyfer y diwydiant adeiladu a chynhyrchion metel. Yn ddiddorol ddigon, mae'r resinau hefyd yn defnyddio deunyddiau gwastraff o'r diwydiannau bragu a phapur.
Meddai Dr Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion y brifysgol,
“Rydym eisoes wedi dangos sut y gall resinau sy'n deillio o blanhigion gymryd lle resinau sydd wedi eu gwneud o olew. Mae'r project hwn yn ein galluogi i ehangu’r gwaith o arddangosiad ar raddfa labordy o'r defnydd o fio-resin, i ddefnyddio 100 tunnell o fio-resin y flwyddyn mewn gwaith peilot ar raddfa ffowndri/ffatri ddiwydiannol.
Gweithio i leihau ôl troed carbon rhai o ddiwydiannau mwyaf trwm y Deyrnas Unedig a chynorthwyo twf economi gylchol y Deyrnas Unedig yw ein nod ac mae gennym hanes o ddarganfod a phrofi technolegau amgen ar gyfer cyfansoddion anadnewyddadwy.”
Mae Cambond, partner ymchwil y brifysgol yn y project hwn, wedi dyfeisio system resin yn seiliedig ar blanhigion gan ddefnyddio sgil-gynhyrchion o ddiwydiant hynaf y byd - bragu. Dyma fydd yn darparu'r sail ar gyfer y resinau) amgen fydd yn cael eu profi.
Nid yw lleoliad y ffatri wedi ei benderfynu eto, ond bydd yn profi'r resin gweithgynhyrchu ar raddfa a fydd yn caniatáu cynnal treialon ar raddfa ddiwydiannol. Os bydd y prosesau yn gallu gwrthsefyll profion llym, rhagwelir y bydd diwydiant yn gallu dechrau defnyddio’r resinau newydd.
Mae Lunts Castings Ltd hefyd yn bartner yn y project, sef un o ffowndrïau arbenigol hynaf Prydain, a Phrifysgol Sheffield Hallam. Un o brif ddefnyddiau resin yn y diwydiant ffowndri yw gosod tywod i greu'r casin ar gyfer castio metel. Unwaith y bydd y castiau hyn wedi eu defnyddio unwaith, cânt eu torri i fyny, ac mae'r resinau naill ai'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi - eu defnyddio i adeiladu ffyrdd, neu mae'r resin yn cael ei losgi, er mwyn casglu’r tywod.
Mae resinau hefyd yn elfen hanfodol yn y byrddau a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu. Bydd defnyddio resinau eraill yn lle’r rhain yn gwella ôl troed CO2 y diwydiant adeiladu. Mae Solomon a Wu, cwmni sy'n cynhyrchu mowldiau ar gyfer cynllunio mewnol, yn rhan o'r project oherwydd eu diddordeb mewn creu cynhyrchion heb fformaldehyd nad ydynt wedi eu bondio'n synthetig.
Mae WI International yn cynhyrchu dodrefn o ansawdd uchel ac unwaith eto maent yn chwilio am ddewis arall bioseiliedig yn lle'r resinau synthetig y maent yn eu defnyddio yn eu cwmni.
Ni all bob partner ar ei ben ei hun gyflawni’r newid sydd ei angen i ddatgarboneiddio a thrawsnewid diwydiannau’r Deyrnas Unedig. Bydd BONDIFI yn ysgogi newid ac yn agor y drws i ostyngiadau carbon enfawr mewn gweithgynhyrchu.
Mae project Bondifi yn adeiladu ar y gwaith parhaus y mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn ei wneud gyda'r diwydiannau sylfaen. Arweiniodd Dr Ormondroyd a'i dîm waith ar gefnogi'r diwydiant mwydion a phapur drwy'r ganolfan Nation ‘TranSFIRe’.