Mae Andrew Lewis yn gyfansoddwr ac yn Athro mewn Cyfansoddi yn yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformiad yn y Brifysgol. Eleni, mae Bangor yn dathlu 100 mlynedd ers i’r brifysgol benodi eu Cyfarwyddwr Cerdd llawn amser cyntaf.
Bydd cyfansoddiad Andrew Lewis ‘Ar gof/In Memory’ yn cael ei bremier byd fel rhan o gyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor nos Wener, 11 Tachwedd am 7.30pm. Tocynnau o wefan Pontio.
Beth oedd y broses o ran cyfansoddi’r darn?
Mae’r darn am brofiadau pobl wrth ofalu am aelodau o’r teulu sydd â dementia. Felly'r man cychwyn oedd gwneud recordiad sain o’r bobl yn siarad am eu profiadau. Defnyddiais eiriau a brawddegau o’r recordiad fel man cychwyn y gerddoriaeth.
Beth oeddech chi eisiau ei gyfleu?
Roeddwn i eisiau dal rhywfaint o brofiad go iawn bobl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu. Mae tua 1 ym mhob 8 o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn gofalu am deulu’n ddi-dâl am un rheswm neu’r llall (nid dementia yn unig), a chyda’i gilydd maent yn cyfrannu £132 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig pob blwyddyn. Ac eto, ychydig iawn yr ydym yn clywed ganddynt. Mae 8 ym mhob 10 o ofalwyr teulu yn dweud eu bod wedi teimlo’n unig neu wedi eu hynysu’n gymdeithasol. Felly rwy’n ceisio cael y math yma o beth i mewn i ymwybyddiaeth y cyhoedd, a rhoi wyneb iddynt (neu yn yr achos yma, llais iddynt).
Pa offerynnau sy’n cael eu clywed fel rhan o’r darn?
Mae’r darn ar gyfer cerddorfa symffoni, gyda ‘electronics’ wedi eu hychwanegu, sef seiniau dros uchelseinyddion, lleisiau’r rhan fwyaf.
Beth yw eich gobaith o ran yr hyn mae’r gynulleidfa yn ei gael o wrando ar y darn?
Rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa yn medru ymdrochi yn y profiad a siwrne bywyd y rhai hynny sy’n gofalu am aelodau o’r teulu gyda dementia. Mae gan lawer o wrandawyr eu profiadau eu hunain hefyd, felly rwy’n gobeithio y bydd o gymorth iddynt gysylltu â’r gymuned enfawr, ond i ryw raddau cudd, o bobl sydd wedi cael y profiadau hyn. Ond gerddoriaeth sydd yma hefyd, felly dwi’n gobeithio hefyd y bydd yn brofiad braf, yn ogystal â heriol a phryfoclyd. Byddwn wrth fy modd yn meddwl y byddai pobl yn sgwrsio â’i gilydd yn yr egwyl, am rai o’r materion hyn ac efallai eu profiadau eu hunain.
Sut ydych chi’n teimlo am y ffaith fod y BBC yn rhoi premiere i’r gwaith?
Mae’n grêt cael gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC unwaith eto. Maent o hyd mor frwdfrydig ynglŷn â cherddoriaeth newydd, ac mae’n wych gweld sut y maent wedi ymdopi â’r her o ddarn newydd fel hwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn mai Owain Arwel Hughes fydd yn arwain. Mae wedi rhoi premiere i sawl darn newydd o gerddoriaeth yn ei fywyd ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut mae’n dod a ‘Ar gof/In Memory’ yn fyw.