Roedd yr ymweliad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar draws y Deyrnas Unedig, yn arddangos strategaeth UKRI ac yn cynnig cyfle i iddynt ddangos eu cefnogaeth i leoliadau o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil ac arloesi fel Prifysgol Bangor.
Dechreuodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser a chynrychiolwyr lleol y daith ym Mharc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, M-SParc, lle dysgon nhw am ddatblygiadau lleol cyffrous mewn meysydd fel ymchwil ynni adnewyddadwy. Dilynwyd hyn gan gyfres o drafodaethau a chyflwyniadau gan arbenigwyr o Fangor ar bynciau amrywiol yn ymdrin ag arloesi yng Nghymru a sut y gall ymchwil ac arloesi gefnogi dyfodol gofal iechyd.
Ymwelodd y grŵp hefyd â llong ymchwil Prifysgol Bangor, a ariennir gan UKRI, RS Prince Madog lle bu aelodau’r criw ac ymchwilwyr yn trafod ymchwil gyffrous a wnaed ar y llong gan gynnwys hanes anhysbys y Titanic.
Cyflwynodd yr Athro Fonesig Ottoline Leyser darlith ar sut mae UKRI yn gweithio i drawsnewid dyfodol ymchwil ac arloesi yn y Deyrnas Unedig trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon fyd-eang fel Bangor, a ddaeth yr ymweliad dydd Gwener i ben.
![Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, yn ymweld â’r Prince Madog gyda Matthew Brown, Cadet Mordwyo](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-12/UKRI%20Prince%20Madog%20Image%201_0.jpg?h=ac778ff2&itok=xnPGZkd-)
![Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, yn ymweld â’r Prince Madog gyda Dr Shelagh Malham a'r Athro Paul Spencer](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-12/UKRI%20Prince%20Madog%20Image%202.jpg?h=ac778ff2&itok=tBFuu-mM)