Project Transship II yw’r project ôl-osod mwyaf o’i fath hyd yma a bydd yn gweld y Prince Madog yn cael ei ôl-osod gyda system gyriant hybrid trydan hydrogen a fydd yn galluogi gweithrediad allyriadau sero i isel erbyn 2025.
Mae'r project yn rhan o Rownd 3 Cystadleuaeth Clean Maritime Demonstration (CMDC3), a ariennir gan yr Adran Drafnidiaeth mewn partneriaeth ag Innovate UK. Bydd yn cael ei gyflwyno gan gonsortiwm o arloeswyr mawr y Deyrnas Unedig mewn technoleg forwrol werdd a systemau hydrogen, dan arweiniad OS Energy sy’n berchen ar, ac yn gweithredu, fflyd o longau gwasanaeth alltraeth pwrpasol.
Mae partneriaid eraill y consortiwm yn cynnwys H2Tec, rhan o’r arbenigwr technolegau hydrogen o Gaeredin, Logan Energy, yn ogystal â Solis Marine Engineering, Newcastle Marine Services, Chartwell Marine, Cedar Marine, Stone Marine Propulsion a phrifysgolion Caerwysg a Newcastle-Upon-Tyne. Cefnogwyd y consortiwm yn ei gais gan Menter Môn, datblygwr Canolfan Hydrogen Caergybi, partner cyflenwi hydrogen gwyrdd lleol posibl ar gyfer y consortia.
Yn ddiweddar, dathlodd y Prince Madog, sy’n eiddo ar y cyd gan Brifysgol Bangor yng Nghymru, 20 mlynedd o wasanaeth i addysg a gwyddoniaeth. Mae'r llong ymchwil wedi newid y ffordd yr ydym yn deall gwyddorau môr ac arfordirol a dyma'r unig un o'i bath yn y Deyrnas Unedig ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Bydd y system gyriant hydrogen newydd, a fydd yn gweithio ar y cyd â phrif injan tanwydd disel, yn galluogi gweithrediad allyriadau sero ar gyflymder araf neu dros bellteroedd byr - megis teithiau dysgu dyddiol gyda myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor. Mewn gweithrediad arferol, bydd y system hybrid a dyluniad gyriant newydd yn lleihau allyriadau hyd at 60%.
Yn ôl Offshore Renewable Energy Catapult (OREC), amcangyfrifir y bydd y sector cymorth alltraeth werth £26 biliwn erbyn 2050 ac y bydd angen 1,200 o longau ychwanegol i wasanaethu diwydiant y Deyrnas Unedig a chefnogi’r newid i sero net erbyn 2050.
Mae tua 90% o'r holl nwyddau traul yn cael eu symud ar y môr, ac mae'r diwydiant llongau yn fyd-eang yn gyfrifol am 940 miliwn tunnell o CO2 - sy'n cyfateb i o leiaf 2.5% o gyfanswm allyriadau CO2 y byd.
Mae’r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol wedi gosod targed i dorri’r allyriadau hyn 50% erbyn 2050 a llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r gyntaf yn y byd i gynnwys allyriadau o forgludiant rhyngwladol yn ei chyllideb garbon ddomestig.
Dywedodd Martin Nuernberg, Rheolwr-Gyfarwyddwr OS Energy (UK): “Mae OS Energy wrth ei fodd i fod yn arwain y project arloesol hwn sy’n cydosod consortiwm cryf o arloeswyr blaenllaw yn y diwydiant i wthio ffiniau systemau gyriant morwrol traddodiadol a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol glanach a mwy cynaliadwy i’r diwydiant llongau. Mae project Transship II yn destament i'n hymrwymiad i arloesi a chyfrifoldeb amgylcheddol a bydd yn dangos potensial defnyddio technoleg werdd yn y diwydiant morwrol."
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor:
“Gyda ffocws o’r newydd ar ddiwydiant ynni adnewyddadwy’r môr, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’w groesawu i’r Prince Madog o ran hwyluso ein haddysgu a’n hymchwil. Gydag uchelgais i fod yn arweinwyr yn y maes hwn, mae’n briodol bod ein llong yn symud drosodd i dechnoleg flaengar sy'n lleihau allyriadau'n sylweddol. Mae lleihau ein hôl-troed carbon drwy symud drosodd i bŵer hydrogen yn golygu y gall Prifysgol Bangor barhau i adeiladu ar ein dealltwriaeth o’r amgylchedd a lleoliad ffisegol safleoedd ynni morol mewn ffordd gynaliadwy.”
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr-Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r consortia a Menter Môn gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ni gefnogi ehangu economi gylchol hydrogen werdd leol sy’n dod i’r amlwg o’n cyfleuster cynhyrchu Canolfan Hydrogen Caergybi ym Mharc Cybi, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei bweru gan ein isadeiledd ynni llanw Morlais gan ddarparu ateb gwirioneddol wyrdd i gludiant ac ynni morol a fydd er budd yr economi leol.”
Dywedodd Aelod Portffolio Newid Hinsawdd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Nicola Roberts, “Mae'r fenter hon yn gam cadarnhaol ar y daith i ddatblygu economi carbon isel ar Ynys Môn ac mae hefyd yn cyd-fynd â rhaglen Ynys Ynni Môn. Rydym yn falch iawn o weld y bydd y project arloesol hwn yn galluogi llong ymchwil y Prince Madog i gael ei phweru gan hydrogen, gan leihau allyriadau CO2 a datblygu ateb ynni glanach i’r diwydiant llongau.”
Mae'r Prince Madog yn llong ymchwil amlbwrpas a ddefnyddir i gynnal ymchwil môr ar hyd arfordir Prydain ac ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd. Fel yr unig long ymchwil morwrol yn y Deyrnas Unedig, fe'i defnyddir yn aml i hyfforddi gwyddonwyr môr y dyfodol ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.
Disgwylir i'r gwaith ôl-osod, a fydd yn cymryd hyd at ddwy flynedd, ddechrau ym mis Ebrill. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y Prince Madog yn derbyn hydrogen o Ganolfan Hydrogen Caergybi ar Ynys Môn, Gogledd Cymru.
Llong ymchwil y Prince Madog
![Llong glas a gwyn yn creu ton ar y blaen wrth dorri drwy môr glas](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-02/madog_4532.jpg?h=1ec4304d&itok=cnvx0zD_)
![Llong Ymchwil Y Prince Madog yn dod mewn i'r doc](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-07/PrinceMadog_1920_0.png?h=05ac0fec&itok=vcq7ErLV)
![Yr Athro John Turner yn gwenu ar y camera gyda'r afon Menai yn y cefndir](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-01/Prof_John_Turner.jpg?h=06f6671c&itok=UaYluIv-)
![Professor John Turner](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-08/John_Turner_0.jpeg?h=bb094710&itok=5qILD03I)
![Llon Ymchwil Y Prince Madog ym Mhorthaethwy](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2020-07/1P6A5027.jpg?h=cb8f9d0b&itok=feFFKDnc)
![A blue ship lies at the end of Menai Bridge pier, seen from above.](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-01/Prince%20Madog%20at%20home%20at%20the%20pier%20in%20Menai%20Bridge.jpg?h=15be23bd&itok=jTY8-oUL)
![RV Prince Madog](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-01/prince%20madog%201.jpg?h=3a0b4c95&itok=c0ezgmci)
![Llong Ymchwil Prifysgol Bangor, y 'Prince Madog', gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2020-05/Prince%20Madog%20Research%20Vessel%20%20%282%29.jpg?h=4f2a2ea5&itok=jq_dU8oi)
![Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, ar y Fenai](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2020-05/Prince%20Madog%20Research%20Vessel%20%20%281%29.jpg?h=e2fe5be9&itok=i07BeplX)