Enwyd Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, yn yr adolygiad fel un o’r economegwyr iechyd pwysicaf o ran chwiliadau am gyhoeddiadau gan economegwyr iechyd ym maes economeg iechyd yn y cyfnod dan sylw.
Ar hyn o bryd mae Rhiannon yn arwain partneriaeth Cymru ar grant ymchwil sy’n werth dros £4 miliwn a ariennir gan Horizon Europe, sy’n ymchwilio i fuddsoddiadau clyfar mewn camau ataliol a fydd yn eu tro yn helpu capasiti. Mae’n gywaith rhwng wyth gwlad yn Ewrop. Mae Rhiannon yn gweithio’n glos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, un o bedwar safle arbrofi ledled Ewrop sy’n rhan o’r astudiaeth.
Cyhoeddodd Rhiannon dros 400 o erthyglau a adolygir gan gymheiriaid ym maes economeg iechyd.
Cydweithredu yw’r nod. Pob clod i fy ngrŵp ymchwil presennol yn CHEME, y myfyrwyr a’r ymchwilwyr blaenorol a symudodd i rolau eraill ym Mhrifysgol Bangor, ac yn Llywodraeth Cymru, ac sy’n datblygu gyrfaoedd mewn canolfannau economeg iechyd eraill. Rwy’n ddall ac rwyf am ddiolch i fy ngweithiwr cefnogi darllen, Dr Catherine Lawrence, sy’n fy ngalluogi, gyda chymorth technoleg ddarllen wych, i weithio fel ysgolhaig yn y maes hwn.

Mae economeg iechyd yn faes cynyddol bwysig i Brifysgol Bangor. Bydd Rhiannon yn cyfrannu at gwricwlwm myfyrwyr Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru, ynghyd a dysgu ym Mhrifysgol Lerpwl, lle mae hi’n Athro Gwadd.
Dywedodd Rhiannon,
“Mae’n bwysig bod academyddion uwch yn dal ati i ddysgu, oherwydd mae’n arwain at gyweithiau ymchwil yn y dyfodol.”
Gwnaed cydweithio economeg iechyd Cymru-gyfan yn bosibl trwy gyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru) drwy Economeg Iechyd a Gofal Cymru.