Mae Kate Davies, myfyrwraig sydd yn derbyn Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, wedi ei dethol ar gyfer carfan Rygbi Cymru dan 20, ac yn teithio gyda’r carfan ar Daith Haf y Tîm i Ganada (1-14 Gorffennaf).
Mae Kate, sy’n dod o Gorwen, yn ei hail flwyddyn yn astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol yn y Brifysgol ac yn chwarae rygbi dros y Brifysgol ac i Glwb Rygbi Caernarfon.
A hithau wedi derbyn Ysgoloriaeth Chwaraeon eleni a’r llynedd, mae Kate wedi bod yn ddiwyd yn hyfforddi ar gyfer y daith, ac mae wedi manteisio ar brofiad Joe Simpson, Prif Hyfforddwr Rygbi’r Brifysgol a chyfleusterau chwaraeon y Brifysgol.
Dywedodd Kate,
“Rwyf wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y Brifysgol, yn enwedig Joe Simpson, sydd wedi fy nghefnogi wrth drafod cryfderau a gwendidau a sut i wella, mae hyn wedi helpu fy mherfformiad yn fawr. Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr ysgoloriaeth, sydd wedi fy helpu gyda chostau teithio i fyny a lawr i Gaerdydd.
Mae rhaglen rygbi’r Brifysgol wedi fy natblygu i fel chwaraewr. Mae’r holl hyfforddi a’r sesiynau yn y gampfa ben bore wedi helpu imi gyrraedd lle dwi rŵan, mae’r holl oriau a’r gwaith caled i gyd werth o yn y diwedd.”
Dywedodd Iona Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford y Brifysgol,
“Rydym yn dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon bob blwyddyn ac yn ceisio targedu perfformwyr ifanc sy’n dangos potensial ym mha bynnag chwaraeon maent yn eu dilyn. Mae mor braf gweld ein cefnogaeth ni a gwaith caled unigolion fel Kate yn dwyn ffrwyth ar lwyfan ryngwladol. Rydym yn dymuno pob lwc i Kate a’r Tîm Rygbi Merched dan 20 ar gyfer eu taith!”
Bydd Kate rŵan yn rhan o’r garfan fydd yn wynebu Canada ac UDA. Mae Kate wedi bod yn chwarae rygbi er yn 11 oed ac wedi cynrychioli Ysgol y Berwyn mewn nifer o gystadlaethau ac mae wedi chwarae i Glwb Rygbi’r Bala. Bu Kate hefyd yn cynrychioli Tîm Rygbi Gogledd Cymru o dan 18. Roedd yn Aelod o’r Tîm (Rygbi Merched Caernarfon) enillodd Gwpan Gogledd Cymru 2022 yn y Principality a 2023. Mae hi eisoes wedi chwarae rygbi 7 bob ochr yn rhyngwladol i Marauders Wooden Spoons ac mewn cystadlaethau o gwmpas y Deyrnas Unedig fel Bournemouth 7s.