Gwobr flynyddol yw Llyfr y Flwyddyn sy’n cael ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu gwaith llenorion Cymreig talentog sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyhoeddwyd y gwobrau nos Iau 13 Gorffennaf, gyda Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn) yn ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn a hynny wedi i’r gyfrol hefyd ddod yn fuddugol yn y Wobr Ffuglen.
Gwobrwywyd llyfrau mewn pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc. Cyhoeddwyd hefyd pa lyfrau oedd ffefrynnau’r cyhoedd yng ngwobrau Barn y Bobl Golwg360 a’r Wales Arts Review.
Yr Enillydd Cymraeg - Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)
Yn ei nofel fer, Pridd, mae Llŷr Titus yn creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn. Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd. Draw yn y caeau mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb. Ac mae’r Llwynog yn llercian.
Graddiodd Llŷr Titus o Fangor mewn Cymraeg, ac aros i wneud MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ac yna PhD mewn Cymraeg. Mae wedi gwneud enw iddo’i hun ym maes llenyddiaeth gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 a’r Fedal Ddrama'r flwyddyn wedyn. Mae wedi cyhoeddi tair nofel erbyn hyn, sef Pridd, Anfadwaith a Gwalia, a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen, tra oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol.
Enillydd Gwobr Ffeithiol Greadigol- Cylchu Cymru gan Gareth Evans Jones (Y Lolfa)
Gareth Evans Jones yw enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol eleni, am ei lyfr Cylchu Cymru, (Y Lolfa). Disgrifir y llyfr fel cyfrol o bigion llenyddol micro sy’n rhoi cipolwg cryno ar wahanol leoliadau yng Nghymru - eu straeon, eu hanes, eu chwedlau a'u swyn.
Ac yntau hefyd wedi graddio o Brifysgol Bangor mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, cyn gwneud MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, ac yna PhD ar y cyd rhwng yr adran Athroniaeth a Chrefydd a’r adran Gymraeg, mae Gareth hefyd wedi gwneud cryn enw iddo ei hun fel awdur. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, ac eto yn Eisteddfod AmGen 2021. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, sef Eira Llwyd ac Y Cylch, a bu ei ddrama Ynys Alys ar daith o amgylch Cymru.
Meddai Ruth Mcelroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau,
“Rydym yn falch iawn o weld dau o'n cyn-fyfyrwyr yn ennill y gwobrau mawreddog hyn. Maent yn tystio i ymrwymiad dwfn yr Ysgol i lenyddiaeth Gymraeg dros flynyddoedd lawer. Dyma lyfrau y bydd darllenwyr yng Nghymru yn eu mwynhau’n arw, os nad ydyn nhw wedi’u darllen nhw eisoes.
Llongyfarchiadau gwresog i Llŷr a Gareth - rydym yn falch iawn ohonoch chi'ch dau!”
Meddai Dr Aled Llion Jones, pennaeth Adran y Gymraeg,
"Testun cryn falchder inni yn Adran y Gymraeg oedd gweld pump o'n cyn-fyfyrwyr yn cyrraedd y rhestr fer eleni, a gwych nawr yw cael dathlu llwyddiannau arbennig Llŷr a Gareth, a'u gweisg. Llongyfarchiadau gwresog iawn iddynt. Dyma gyfle i ymfalchïo yn y diwylliant cyhoeddi sydd gennym yng Nghymru, a chofio cystal myfyrwyr sydd gennym ym Mangor.'