Yn lle tabl cynghrair traddodiadol sydd yn canolbwyntio ar raddau, cofrestriadau a rhagolygon mae tabl cynghrair amgen Unifresher yn cymharu ffactorau sy’n darlunio costau byw a lefelau trosedd, yn ogystal â’r ymdrechion a wna prifysgolion o ran cynaliadwyedd a darparu bywyd cymdeithasol gwych i fyfyrwyr.
Mae agwedd Prifysgol Bangor at gynaliadwyedd, a’i huchelgais i arwain y maes o ran cynaliadwyedd wedi ennill sgôr uchel i’r brifysgol, a’i gosod ar frig y rhestr. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn ôl y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy’n dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.
Wrth groesawu’r newyddion bod Bangor ar y brig yn y tabl drwyddo draw, gan ddod yn uchaf o blith 94 o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig yr oedd yr holl ddata ar gael ar eu cyfer, dywedodd Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y Deyrnas Unedig,
“Mae llawer o ffyrdd i ganfod gwybodaeth am y brifysgol yr hoffech astudio ynddi. Mae’r canllaw yma’n edrych ar agweddau cymdeithasol ar astudio mewn prifysgol. Wrth ystyried i ba brifysgol i anfon cais, mae'r rhain yn ystyriaethau sydd yr un mor deilwng â natur ac ansawdd yr addysgu a’r cwrs y mae arnoch eisiau ei ddilyn.
Rydym wastad yn annog ymgeiswyr i ganfod gwybodaeth o amrediad eang o ffynonellau, ac yn bwysicach, i ymweld â’r prifysgolion sydd o ddiddordeb i chi, fel eich bod yn cael ymdeimlad go iawn o’r lle a chyfle i gyfarfod â rhai o’r darlithwyr a fydd efallai’n darlithio i chi.”
Mae Cymru’n gwneud yn dda iawn yn y Canllaw, gyda phum prifysgol ymysg y 10 uchaf. Hefyd daw’n amlwg fod mantais o fod ger y môr gyda naw allan o’r 10 prifysgol orau ar yr arfordir, gan ddangos cysylltiad posib rhwng lleoliad a bodlonrwydd myfyrwyr! Â hithau yng Nghymru a ger y môr, mae Bangor yn disgyn i’r ddau gategori!
Seiliwyd y gynghrair ar restr The Complete University Guide <https://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/>, a defnyddiwyd cronfeydd data cyhoeddus er mwyn canfod costau byw, gweithio allan lefelau troseddu, cost ‘McMeal’, tocyn sinema, a phris peint. Seiliwyd y sgôr cynaliadwyedd ar yr wybodaeth a gynhyrchir gan People and Planet <https://peopleandplanet.org/university-league>, a sgôr defnyddwyr a phrofiadau ar University Compare <ttps://universitycompare.com/rankings/student-life> i sgorio bywyd cymdeithasol prifysgol. Yn olaf, cafwyd pris taith tacsi Uber 10 cilomedr o wybodaeth y cwmni hwnnw.
Gellir canfod manylion Diwrnodau Agored nesaf Prifysgol Bangor yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/diwrnodagored
Mae Llinell Gymorth Clirio’r Brifysgol ar 0800 085 1818 https://www.bangor.ac.uk/cy/clirio