Dosbarthwyd y brifysgol fel prifysgol ganolig ei maint ond dwys o ran ymchwil. Mae’r metrigau sy’n sail i’r gynghrair yn gosod y brifysgol yn safle 89 ymhlith prifysgolion gogledd Ewrop, yn safle gydradd 42 trwy Ewrop, o ran cynaliadwyedd, ac yn safle 121 o ran amrywiaeth myfyrwyr. Roedd metrigau eraill yn ein rhoi yn safle 131 am ddyfyniadau fesul papur cyhoeddedig, sef sawl gwaith mae papurau academaidd eraill a adolygir gan gymheiriaid yn cyfeirio at un o bapurau ymchwil Prifysgol Bangor, sy’n fesur o’u hansawdd; ac yn safle 144 am nifer y papurau fesul cyfadran, gan adlewyrchu eto, ansawdd a swm yr ymchwil a gynhyrchir gan academyddion y brifysgol. Gosodwyd y brifysgol yn safle 251 am enw da academaidd ac enw da ymysg cyflogwyr.
O’i chymharu â 107 o sefydliadau eraill yn y Deyrnas Unedig, mae’r brifysgol yn 20fed am gynaliadwyedd ac yn 23ain am nifer y papurau o bob cyfadran.
Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu uchelgais y brifysgol i fod yn brifysgol gynaliadwy ac i ymchwilio ac addysgu mewn modd trawsnewidiol ac arloesol sy’n cael ei sbarduno gan effaith.
Gan groesawu’r newyddion, dywedodd, Sam Jackson-Royle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Derbyniadau Rhyngwladol,
Mae’r ffaith bod Prifysgol Bangor wedi ei gosod ymhlith y 35% uchaf o sefydliadau trwy Ewrop yn y tabl cynghrair Ewropeaidd cyntaf i QS ei gyhoeddi yn ganlyniad gwych. Mae cael ein cydnabod am y pwyslais a roddwn ar amgylchedd dysgu cynaliadwy ac am ymchwil sy’n arwain y byd yn dangos ein cryfderau’n glir i fyfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr.