Canolfan Dementia Gwynedd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl yn dod i Fangor
Mae gwasanaeth newydd, Canolfan Dementia Gwynedd, wedi ymuno â Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Yn un o chwe Chanolfan Dementia ar draws Gogledd Cymru, mae’r ganolfan yn cynnig gwybodaeth, addysg, cyngor a chymorth hirdymor wedi’u teilwra i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr di-dâl, a’u teulu.
Mae’r Ganolfan bellach yn rhan o’r Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia, gan ddod â thîm ymchwil y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) ynghyd â gwasanaethau lleol i gyflwyno rhaglen o gymorth ôl-ddiagnostig i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Ar hyn o bryd mae’r ganolfan yn gartref i nifer o grwpiau cefnogaeth sy’n cyd-daro ag ymchwil, megis y Grŵp Cefnogi Dementia Prin ac Addysgwyr Dementia Prifysgol Bangor (grŵp Caban).
I ddathlu agoriad Canolfan Dementia Gwynedd (Bangor) mae croeso i bawb ymweld â’r Hwb yn Adeilad Ardudwy ar Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor ar ddydd Iau 5ed Hydref, rhwng 10yb a 4.30yp, i ddysgu am y ganolfan a’r cymorth sydd ar gael ac am waith tîm ymchwil DSDC.
Mae Ffion Travis, sy'n cydlynu Canolfannau Dementia Gwynedd yn esbonio; “Mae’r canolfannau’n rhan o Lwybr Cymorth Cof Dementia Gogledd Cymru sydd â’r nod o symleiddio cymorth dementia i bobl yng Ngogledd Cymru. Gall unrhyw un ymweld â'r canolfannau. Rydyn ni yma i roi cymorth, gwybodaeth a chyngor i chi; nid oes angen atgyfeiriad neu ddiagnosis diweddar o ddementia arnoch.”
Am fwy o wybodaeth, ac i ffeindio eich Canolfan Dementia agosaf, cysylltwch â 01492 542212. I ddysgu mwy am y mathau o weithgareddau a chefnogaeth sydd ar gael yn y Canolfannau Dementia ymwelwch â'r dudalen Facebook: https://www.facebook.com/DementiaCentresGogleddCymru
Rhith Daith Dementia Gwynedd
Bydd cyfle hefyd i gael profiad rhith-realiti ar yr efelychydd dementia (bws) sy’n ymweld â’r ganolfan ar y 5ed o Hydref. Mae'r efelychydd dementia yn rhoi profiad i berson ag ymennydd iach o'r hyn y gallai dementia fod. Bydd yn brofiad amhrisiadwy i helpu i ddeall yn well sut mae pobl â dementia yn llywio amgylcheddau, tasgau, a'r synhwyrau. Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y bws, ac mae lleoedd yn gyfyngedig. Cysylltwch ag Emma Quaeck (emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru) neu ffoniwch 07768 988095