Recordiwyd y podlediad o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol y Brifysgol. Ynddi, ceir trafodaeth am effeithiau tymor byr a thymor hir o sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Bydd y gallu i astudio meddygaeth ym Mangor yn apelio at fyfyrwyr lleol a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, a'r disgwyl hefyd yw y bydd hyd at 70% o'r cwrs ar gael drwy'r Gymraeg. Bydd ffocws unigryw’r Ysgol Feddygol ar gynyddu profiad myfyrwyr meddygaeth yn y maes Meddygaeth Teulu a gofal yn y gymuned, yn ogystal ag apêl yr Ysgol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, yn golygu y bydd myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn fuan yn dechrau ymgymryd â lleoliadau mewn gwahanol leoliadau cymunedol, gan alluogi mwy o bobl i drafod eu gofal iechyd yn Gymraeg.
Mae’r garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth, sy’n rhan o’r bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, newydd raddio, a nifer ohonynt eisoes wedi dechrau mewn swyddi yn yr ardal. Y disgwyl yw y bydd presenoldeb yr Ysgol yn lleddfu’r heriau recriwtio a wynebir gan y bwrdd iechyd lleol.
Gwrandewch ar y podlediad, sydd ar gael ar https://ypod.cymru/podlediadau/amiechyd?id=amiechyd, i glywed mwy am farn y panelwyr am effaith yr Ysgol Feddygol dros y ddeng mlynedd nesaf.
Mae’r panelwyr, o dan gadeiryddiaeth Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth Prifysgol Bangor, yn cynnwys Dr Berwyn Owen (Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol ym Mhenygroes), Dr Nia Hughes (Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Cychwynnol – Gorllewin), Dr Robin Parry (Meddyg teulu), Dr Marc Edwards (Meddyg teulu ac Uwch ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Iechyd, Prifysgol Bangor), a Siôn O’Brien a Jasmine Blight (darpar feddygon).