Gweinidog yn ymweld â'r Prince Madog wrth i’r llong gael ei hôl-osod â system werdd
Mae gwaith gwerth £5.5 miliwn i ôl-osod system werdd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar long ymchwil Prifysgol Bangor ar y gweill.
Mae’r llong Prince Madog yn llwyfan ymchwil amlbwrpas ar gyfer cynnal ymchwil i wyddoniaeth y moroedd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd, ac mae wedi bod yn gweithredu ers dros ddau ddegawd.
Yr wythnos hon (dydd Iau 2 Tachwedd) ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Dr James Davies, â'r llong a ddefnyddir i ymchwilio i fioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. Defnyddir y llong hefyd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd mae gwaith ôl-osod, a fydd yn para dwy flynedd, yn cael ei wneud i’r llong i osod system gyriant hydrogen ynddi i weithio ochr yn ochr â’r brif injan disel gan alluogi gweithrediad heb unrhyw allyriadau wrth forio’n araf neu yn ystod siwrneiau byrion. Mewn gweithrediad arferol, bydd yn lleihau allyriadau hyd at 60%.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n ariannu’r gwaith ôl-osod gyda’r Adran Drafnidiaeth yn darparu £5.5 miliwr o’r gronfa Technolegau Morwrol Glân ac Arloesol gwerth £60 miliwn.
Yn y dyfodol, mae gweithredwyr y Prince Madog yn rhagweld y bydd y llong yn cael ei hydrogen o’r Ganolfan Hydrogen y mae bwriad ei sefydlu yng Nghaergybi gyda chefnogaeth £4.8m o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae data a gasglwyd gan y Prince Madog wedi cyfrannu at ganfyddiadau gwyddonol pwysig, gan gynnwys:
- Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy drwy asesu effaith treillio ar wely'r môr.
- Datgelu hinsawdd moroedd arfordirol yn y gorffennol.
- Lleoli ac adnabod llongddrylliadau.
- Rhagweld tywydd a hinsawdd drwy ddatblygu technegau a mesuriadau newydd a ddefnyddir bellach yn fyd-eang.
- Cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol drwy asesu safleoedd posibl ar gyfer datblygu a chynnal asesiadau o welyau ac ecosystemau'r môr.
- Datblygu technegau newydd i fesur cynnwrf cefnforol a'r effaith ar gymysgu dyfroedd gwahanol yn y cefnfor.
- Asesu effaith yr amgylchedd ffisegol ar egni fforio adar môr a goblygiadau hynny ar lwyddiant bridio
Meddai Dr James Davies, "Roedd yn hynod ddiddorol dysgu am y Prince Madog yn ogystal â chwrdd â rhai o staff ymchwil Prifysgol Bangor a chlywed mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
"Mae'r llong wedi bod yn arf hanfodol mewn astudiaethau di-ri dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi helpu Prifysgol Bangor i ddod yn gyrchfan flaenllaw yn y byd ar gyfer astudio ac ymchwilio i'r amgylchedd morol.
"Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn lleihau ein hôl troed carbon ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol i baratoi’r llong wych hon ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Mae'r Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil.
"Mae effaith yr ymchwil a wnaed gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros y degawdau’n rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn nifer o feysydd, wedi ail-ysgrifennu’r gwerslyfrau ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus yr amgylchedd morol. "Rydym yn edrych ymlaen at flynyddoedd lawer eto o ymchwil arloesol ac effaith o ddec y Prince Madog."