Sicrhau systemau bwyd gwydn, cyfiawn a chynaliadwy ym mhobman: beth yw'r broblem?
Darlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor am 17.30 nos Wener 17 Tachwedd.
Bydd yr Athro Tim Lang, ffermwr mynydd ac academydd sydd wedi treulio’i fywyd yn astudio’r berthynas rhwng bwyd, iechyd, yr amgylchedd a diwylliant yn traddodi darlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor am 17.30 nos Wener 17 Tachwedd. Mae croeso i bawb i’r ddarlith ac nid oes angen llogi lle o flaen llaw.
Bydd y ddarlith flynyddol mewn perthynas â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn adolygu'r bwlch rhwng tystiolaeth, polisi a realiti yn y systemau bwyd presennol.
Bydd Tim Lang, Athro Emeritws mewn Polisi Bwyd o Ganolfan Polisi Bwyd Prifysgol Llundain yn olrhain y daith hir o uchelgais Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gynhyrchu mwy o fwyd a thrwy hynny ddatrys y broblem newyn i'r amrywiaeth gymhleth o heriau heddiw ar lefel fyd-eang. Meddai Tim Lang,
“Mae bwlch sy’n peri pryder rhwng cynhyrchu bwyd, yr hyn gaiff ei fwyta ac iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. Mae pandemig o glefydau sy'n gysylltiedig â diet er gwaethaf dyheadau clodwiw gweledyddion y 1940au. Mae'r Deyrnas Unedig yn bennaf naill ai wedi osgoi neu cuddio’r heriau hyd yma. Ond mae pocedi o ymarfer da a chydnabyddiaeth bod blynyddoedd system bwyd-amaeth diwedd yr ugeinfed ganrif wedi dod i ben mwy na thebyg. Yn y ddarlith, byddaf yn ystyried beth all ddatgloi’r polisi hwn. Mae angen ymgysylltu â’r cyhoedd yn bendant. Y cwestiwn yw a all hyn ddod o ddewis neu a all digwyddiadau gyfyngu ar yr opsiynau.”
Ffermio mynydd yn y 70au a ffurfiodd ddiddordeb Tim Lang yn y berthynas rhwng bwyd, iechyd, yr amgylchedd a diwylliant, maes y mae wedi gweithio arno byth ers hynny. Mae ei waith wedi pontio addysg, gwyddoniaeth a llywodraethu, gan weithio naill ai gyda neu ar gyfer y sector cyhoeddus a buddiannau cymdeithas sifil ar lefelau byd-eang, Undeb Ewropeaidd, cenedlaethol, lleol a rhanbarthol.
Mae'n Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, yn Llywydd Garden Organic ac yn Uwch Gynghorydd i'r Cydweithrediad Ymchwil Bwyd sy'n cysylltu'r byd academaidd gyda chymdeithas sifil ar faterion bwyd (2013-23). Ei lyfr diweddaraf yw Feeding Britain, sy'n edrych ar ystyr diogelwch bwyd i economïau cyfoethog, gan ddadlau bod gwledydd datblygedig yn mynd y tu hwnt i’w hôl troed ecwiti bwyd. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i'r achos dros wytnwch bwyd sifil ac amddiffyn.