Cafodd enw da Prifysgol Bangor fel prifysgol gynaliadwy hwb arall gyda chyhoeddi’r QS World University Rankings: Sustainability 2024, heddiw (5 Rhagfyr), sy’n ei gosod ymhlith y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd.
Mae’r cynghrair yn ystyried yr amryfal ffyrdd y mae prifysgolion yn gweithredu i daclo’r materion dwysaf sy’n ein hwynebu ni oll o ran yr amgylchedd, cymdeithas a llywodraethu. Gosoda’r tabl cynghrair y Brifysgol yn safle 33 o blith 93 o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a gynhwysir yn y cynghrair, safle 63 o blith 493 o brifysgolion yn Ewrop a ystyriwyd ac yn gyfartal yn safle 139 o blith y 1403 o sefydliadau ledled y byd a adolygwyd am eu rhinweddau o ran cynaliadwyedd (sustainability credentials).
Dyma newyddion gwych i’r Brifysgol sy’n rhoi ystyriaeth i gynaliadwyedd yn ei holl weithgareddau.
Mae cynaliadwyedd o’r pwys mwyaf inni fel prifysgol, ac mae cyfle gwych i addysgu, ysbrydoli a dylanwadu i sicrhau newid positif. Mae’r pwyslais sydd gennym ar gynaliadwyedd hefyd yn adlewyrchu blaenoriaethau’r myfyrwyr a chymdeithas yn ei chyfanrwydd,.
Mae’r Brifysgol wedi codi ei safle yng nghategorïau’r Effaith Amgylcheddol (Environmental Impact) a’r Effaith Gymdeithasol (Societal Impact). Cafodd categori newydd Effaith Lywodraethol ei ychwanegu eleni. O blith yr is-gategorïau, mae’r Brifysgol yn safle 30 yn fyd-eang am iechyd a lles, a safle 33 am addysg amgylcheddol. Bu gwelliannau hefyd yn ein safleoedd am ymchwil amgylcheddol a chydraddoldeb a chyfnewid gwybodaeth.